Llawfeddygaeth Ddeintyddol Frys yng Ngogledd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:30, 27 Tachwedd 2019

Mae etholwyr yn ardal Bangor wedi cysylltu â fi yn mynegi gofid ynglŷn â pha mor amhosib yw hi i gael mynediad at wasanaethau deintyddol. Mae rhestrau deintyddiaeth NHS ar gau, wrth gwrs. Dŷn nhw ddim yn gallu fforddio talu am fynediad i ddarpariaeth breifat, ac mae yna deuluoedd yn dweud wrthyf i eu bod nhw ddim wedi cael gweld deintydd ers dros flwyddyn. Felly, a gaf i ofyn beth ydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem yna, ac yn benodol beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud er mwyn sicrhau ein bod ni yn hyfforddi deintyddion yn y gogledd, oherwydd, fel gyda meddygon teulu, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod, os ydy pobl yn cael eu hyfforddi yn y gogledd, maen nhw'n fwy tebygol o aros yn y gogledd i gyflawni eu gwaith?