Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Diolch am eich cwestiwn. Yr unig newid sydd wedi bod i ffiniau'r byrddau iechyd ers 2009 yw symud ardal bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i ffurfio'r bwrdd newydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Daeth y ddeddfwriaeth i wneud y newid hwnnw i rym ar 1 Ebrill 2019.