Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Diolch, Weinidog. Cafodd GIG Cymru y ganran uchaf erioed o lwybrau gofal i gleifion yn aros rhwng 26 a 36 wythnos i ddechrau triniaeth ar gyfer llawdriniaeth ar y geg ym mis Medi 2019. Mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar fy etholwyr, fel un fenyw a chanddi ddant sydd wedi pydru’n ddifrifol gan achosi chwydd i’w hwyneb, poen difrifol a lefelau uchel o haint. Mae hi eisoes wedi aros 33 wythnos i gael ei dynnu. Bu'n rhaid canslo nifer o apwyntiadau ar gyfer llawdriniaeth angenrheidiol ar ei llygad am nad yw wedi cael llawdriniaeth ar y geg, ac oherwydd bod ganddi haint. Mae'r ddynes hon yn 83 oed, ac fel y dywedais, mae hi eisoes wedi aros 33 wythnos. Mae GIG Cymru yn methu cyrraedd y targed 26 wythnos ar gyfer llawdriniaethau. Felly, pa sicrwydd a roddwch i mi yma heddiw na fydd yn rhaid i fy etholwyr aros cymaint o wythnosau mewn poen ofnadwy am lawdriniaeth frys ar y geg eto? Ac a wnewch chi, os gwelwch yn dda, ymyrryd yn yr achos hwn efallai, a gadewch i ni sicrhau bod dant y fenyw hon yn cael ei dynnu?