Ffiniau'r Byrddau Iechyd Newydd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:23, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedoch, mae ardal Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn rhan o ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Golyga hynny fod carchar y Parc bellach yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Fel y gwyddoch, mae carchar y Parc yn garchar preifat ac mae'r system gofal iechyd, sydd wedi'i datganoli, yn cael ei gweithredu'n breifat o dan G4S yng ngharchar preifat y Parc ac mae i fod o dan drosolwg bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Nawr, awgrymodd tystiolaeth i'r pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf gan uwch gynrychiolwyr bwrdd Cwm Taf nad oedd ganddynt fawr o syniad ynglŷn â'r sefyllfa iechyd yng ngharchar y Parc. A yw hynny'n dderbyniol?