Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 27 Tachwedd 2019.
'Ydw' yw'r ateb syml, gan ei bod yn bwysig fod cynllun ar waith a bod y cynllun ei hun yn gwneud synnwyr. Ac ar ôl cael y cam dros dro gan yr adroddiad ar y cyd gan y colegau brenhinol, wrth gwrs, ystyriais y mater yn llawn, ac a fyddai’n well cymeradwyo’r cynllun hwnnw ai peidio. Credaf mai dyma'r peth iawn i'r sefydliad, a chredaf y dylai eu gallu i gyflawni a pharhau i gyflawni mewn meysydd eraill barhau. Ond wrth gwrs, mae'r craffu'n ddwysach. Felly, cymerais y cam o godi statws uwchgyfeirio'r sefydliad, yr ymyrraeth wedi'i thargedu. Ac o ran y gwelliannau i'r gwasanaethau mamolaeth, wel, mae'r Aelodau yn y Siambr hon wedi fy nghlywed yn dweud ar fwy nag un achlysur, yn agored, beth yw ein sefyllfa ar y daith wella, gyda gwaith y panel trosolwg annibynnol, ac yn wir, y newidiadau y mae'r adolygiad llywodraethu diweddar wedi cydnabod eu bod wedi digwydd o dan yr arweinyddiaeth newydd yn y sefydliad hwnnw.