2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Symudwn ymlaen at gwestiynau'r llefarwyr, a daw'r cyntaf gan Angela Burns, llefarydd y Ceidwadwyr.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. O ganlyniad i bryderon difrifol ynghylch safon a diogelwch gofal yn y gwasanaethau mamolaeth ym mwrdd Cwm Taf, fe gomisiynoch chi ymchwiliad i ddarpariaeth y gwasanaethau mamolaeth hynny. Fe ofynnoch chi i Goleg Brenhinol y Bydwragedd a Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr gynnal yr ymchwiliad. Fe wnaethant hynny ym mis Ionawr 2019, ac yn dilyn hynny, lluniodd y colegau brenhinol adroddiad a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 30 Ebrill. Mae'n adroddiad damniol. Yn ystod yr ymchwiliad, brawychwyd y colegau brenhinol i'r fath raddau nes eu bod wedi cymryd y cam hynod anghyffredin o wneud argymhellion dros dro wedi'u llunio i sicrhau gwelliannau ar unwaith mewn perthynas â diogelwch cleifion. Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad fod y gwasanaeth yn gweithio o dan bwysau eithafol ac o dan arweinyddiaeth glinigol a rheolaethol is-optimaidd. Roedd y gwasanaethau mamolaeth, Weinidog, eisoes yn destun monitro uwch, roedd y clychau rhybudd yn canu, roedd y gwaith maes ar adroddiad y colegau heb ei gyhoeddi wedi'i gynnal oddeutu wyth wythnos ynghynt. Felly, a ydych yn credu ei bod yn briodol eich bod wedi cymeradwyo cynllun tymor canolig integredig bwrdd Cwm Taf ar 27 Mawrth?
'Ydw' yw'r ateb syml, gan ei bod yn bwysig fod cynllun ar waith a bod y cynllun ei hun yn gwneud synnwyr. Ac ar ôl cael y cam dros dro gan yr adroddiad ar y cyd gan y colegau brenhinol, wrth gwrs, ystyriais y mater yn llawn, ac a fyddai’n well cymeradwyo’r cynllun hwnnw ai peidio. Credaf mai dyma'r peth iawn i'r sefydliad, a chredaf y dylai eu gallu i gyflawni a pharhau i gyflawni mewn meysydd eraill barhau. Ond wrth gwrs, mae'r craffu'n ddwysach. Felly, cymerais y cam o godi statws uwchgyfeirio'r sefydliad, yr ymyrraeth wedi'i thargedu. Ac o ran y gwelliannau i'r gwasanaethau mamolaeth, wel, mae'r Aelodau yn y Siambr hon wedi fy nghlywed yn dweud ar fwy nag un achlysur, yn agored, beth yw ein sefyllfa ar y daith wella, gyda gwaith y panel trosolwg annibynnol, ac yn wir, y newidiadau y mae'r adolygiad llywodraethu diweddar wedi cydnabod eu bod wedi digwydd o dan yr arweinyddiaeth newydd yn y sefydliad hwnnw.
Gadewch inni fod yn glir: roedd bwrdd Cwm Taf eisoes yn ei chael hi'n anodd. Cafwyd adroddiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn 2015, a gododd bryderon ynghylch ansawdd profiad y claf, darpariaeth gofal diogel ac effeithiol, ac ansawdd rheoli ac arwain. Cafwyd adroddiad gan dîm y gweithlu a datblygu sefydliadol yn 2016, a nododd faterion sylweddol, gan gynnwys y canfyddiad o ddiwylliant bwrw bai a diffyg amser. Cafwyd ymweliad gan Ddeoniaeth Cymru yn 2017, a amlygodd chwe maes pryder. Cafwyd arolwg gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn 2018, a amlygodd bryderon, adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn 2018, a amlygodd bryderon, adroddiad mewnol yn 2018 gan y cyfarwyddwr meddygol cyswllt, a arweiniodd at adolygiad llywodraethu a chynllun gweithredu na chafodd ei weithredu. Rhwng mis Mai a mis Medi 2018, cafwyd tri adroddiad at wraidd digwyddiadau a gofnodwyd ac na chofnodwyd ar Datix, gan gynnwys darganfod yr holl farwolaethau marwanedig hynny, adroddiad mewnol ym mis Medi 2018 gan fydwraig ymgynghorol a anwybyddwyd, adroddiad yn 2018 gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol, a nododd bryderon mewn nifer o feysydd ym mhob rhan o'r bwrdd iechyd, gan gynnwys gwasanaethau mamolaeth. Ac adroddiad yn 2018 gan Swyddfa Archwilio Cymru, a gododd bryderon ynghylch ansawdd a threfniadau llywodraethu. Weinidog, ni chymeradwyoch Gynlluniau Tymor Canolig Integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, na Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Felly, a allwch egluro i ni beth oedd mor wahanol am fwrdd Cwm Taf fel eich bod, er gwaethaf yr holl bethau uchod, yn teimlo y gallech gymeradwyo eu cynllun tymor canolig integredig?
Wel, credaf ei bod yn bwysig cydnabod, yn yr adroddiadau y mae'r Aelod wedi dyfynnu elfennau ohonynt, fod yno hefyd ystod ehangach o adroddiadau cadarnhaol am weithgarwch y bwrdd iechyd. Nid yw ceisio bwrw cysgod ar weithgarwch cyn fwrdd iechyd Cwm Taf yn rhywbeth sy'n deg neu'n gytbwys yn fy marn i. Mae'r gwirionedd plaen wedi'i nodi, yn yr adolygiad llywodraethu diweddar, ac yn wir, yn yr adroddiad ar y cyd gan y colegau brenhinol y gwneuthum ymyrryd arno a'i gomisiynu. Ymdriniwyd â rhai o'r meysydd y cyfeiria'r Aelod atynt yn fy natganiad yn yr hydref y llynedd mewn gwirionedd, o ran yr angen i wella ymhellach. Felly, ymhell o fod y Llywodraeth yn bod yn ddrwgdybus ac yn anwybyddu'r problemau, rydym wedi ymyrryd, rydym wedi cymryd camau a rhoi mesurau ar waith. Ac edrychaf ymlaen at weld cynnydd pellach, nid yn unig gan y bwrdd iechyd, ond y sicrwydd a'r trosolwg annibynnol y byddwn yn eu cael, nid yn unig gan y panel trosolwg annibynnol, ond o waith Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Ac yn fwy na hynny, ar fy ymweliadau diweddar â phobl mewn gwasanaethau mamolaeth, cyfarfûm â staff ar y ddau safle; roedd yn sgwrs onest ac agored, ac yn un llawer mwy cyhoeddus. A byddaf yn mynd yn ôl i gyfarfod â theuluoedd cyn diwedd y flwyddyn galendr, fel yr addewais wneud yn wir. Credaf fod fy safbwynt pan gymeradwyais y cynllun yn un cytbwys, ac mae'n dal yn iawn i'r cynllun hwnnw gael ei gymeradwyo heddiw.
Wel, gadewch i ni fod yn glir—mae'r pum amcan gweithredol sy'n darparu fframwaith ar gyfer Cynllun Tymor Canolig Integredig bwrdd Cwm Taf yn cynnwys: gwella ansawdd, diogelwch a phrofiad y claf, a darparu sicrwydd a llywodraethu cryf. Nawr, mae Dai Lloyd eisoes wedi codi'r dystiolaeth a gawsom gan y cyfarwyddwr iechyd meddwl cymunedol a gofal sylfaenol ym mwrdd iechyd Cwm Taf ynglŷn â charchar y Parc. Nid ydym yn cwestiynu'r ffaith mai G4S, mewn gwirionedd, yw'r rhai sydd i fod yn rhedeg y gwasanaethau cymunedol; yr hyn y mae ganddo gyfrifoldeb amdano yw llywodraethu, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n cael eu darparu. Ac eto, ei ymateb i'r rhan fwyaf o gwestiynau'r pwyllgor oedd, 'Wn i ddim. Wn i ddim. Wn i ddim', er gwaethaf y ffaith eu bod wedi cael y carchar hwnnw, nid yn unig yn eu gofal ers dechrau eleni, ond bu cyfnod o 18 mis yn arwain at hynny. Felly, mae'n ymwneud yn llwyr â llywodraethu, ac mae hyn wedi'i amlygu unwaith eto gan yr adroddiad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sy'n beirniadu'r diffyg llywodraethu a rheolaeth archwilio yn y bwrdd iechyd hwn yn llym.
Yn eich papur Cabinet, ar 27 Mawrth, fe ddywedoch fod pob un o gynlluniau tymor canolig integredig pob un o'r byrddau iechyd wedi bod yn destun proses asesu gadarn. Sut, Weinidog, na wnaethoch chi na'ch swyddogion sylwi ar y tswnami hwn o bryderon? Ai'r gwir yw bod bwrdd iechyd Cwm Taf, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi'i ganmol fel y bwrdd iechyd o'r radd flaenaf, y nod, yr un y dylai pob bwrdd iechyd arall geisio'i efelychu, ac na ellid caniatáu iddo fethu? Oherwydd mae'n dechrau ymddangos bod yna broblem systemig yn y bwrdd iechyd hwn drwyddo draw. A chyn i chi ddod yn ôl gydag ateb parod cyflym i hyn, hoffwn eich atgoffa bod hyd yn oed adroddiad interim panel trosolwg y gwasanaethau mamolaeth yn glir iawn, fel y mae David Jenkins yn glir iawn ynglŷn â'r ffaith bod hwn yn newid diwylliannol y mae’n rhaid iddo digwydd drwy'r bwrdd iechyd cyfan, fod problemau systemig yn bodoli, a bod y trefniadau llywodraethu, os nad unrhyw beth arall—sef un o'r pethau yn y cynllun tymor canolig integredig hwnnw roeddent yn frwd iawn yn ei gylch, ac yn dweud ei fod yn gwbl gywir—yn wael. Nid yw eu pwyllgor archwilio wedi cyfarfod ers oesoedd i drafod rhai o'r materion hyn. Felly, Weinidog, gofynnaf hyn ichi: a wnaethoch chi edrych ar berfformiad bwrdd Cwm Taf yn gadarn ac yn ddiduedd? A wnaethoch chi edrych a methu gweld? A wnaethoch chi edrych, a gweld—ond nad oedd ots?
Credaf fod honno'n ffordd warthus o orffen cwestiwn—fel pe na bai ots. Mae popeth a wnaf yn y swydd hon a'r dewisiadau a wnaf yn ymwneud â phobl yng Nghymru sy'n gweithio yn ein gwasanaeth, pobl yng Nghymru sydd angen y gwasanaeth iechyd. Ymhell o fod yn tswnami o bryderon heb eu hateb—. Ac unwaith eto, ni chredaf fod y gor-ddweud, o ran yr iaith a ddefnyddiwch, yn glod i chi mewn gwirionedd, Angela Burns—[Torri ar draws.] Y gwir amdani yw, ar ôl deall, yn dilyn yr adroddiad ar y cyd a gomisiynwyd gan y colegau brenhinol, natur y pryderon a oedd yn bodoli, fod pob sefydliad wedi edrych eto ar draws y GIG ar yr hyn y maent yn ei wneud a pham. Ac os edrychwch ar adolygiadau llywodraethu blaenorol Swyddfa Archwilio Cymru, nid ydynt yn dangos yr un lefel o bryder, ac nid yw'r gwaith manwl y maent wedi'i wneud ynghyd ag Arolygiaeth Iechyd Cymru yn dangos hynny chwaith.
Mae angen newid diwylliannol, ac rwyf wedi bod yn agored iawn ynglŷn â hynny ac ynghylch y disgwyliad nid yn unig fod angen i'r newid hwnnw ddigwydd ond bod angen tystiolaeth ohono a bod angen i'r staff a'r cyhoedd ei deimlo. Ac yn wir, mae'r arweinyddiaeth newydd sydd ar waith yn y bwrdd iechyd, nid yn unig y prif weithredwr dros dro, ond yr ymagwedd wahanol sy'n cael ei mabwysiadu gan y tîm ehangach, gan gynnwys aelodau annibynnol, yn rhan o hynny hefyd. Edrychaf ymlaen at gael tystiolaeth ddilys o sefyllfa'r bwrdd iechyd, a byddaf yn gwneud dewisiadau ynglŷn â phob un o sefydliadau'r GIG yn ddiduedd a chan ystyried lles y cyhoedd.
Diolch. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, rwy'n wirioneddol awyddus i ddeall pam nad oedd y saith adroddiad blaenorol ar y problemau ym mwrdd iechyd Cwm Taf yn destun pryder i chi, a pham na wnaethant eich arwain i weithredu fel y gwnaethoch yn y pen draw. Ac mae'n rhaid imi ddod â chi'n ôl at gwestiwn y cynlluniau tymor canolig integredig, gan fod rhai cynlluniau y dewisoch beidio â'u cymeradwyo, fe ddewisoch chi gymeradwyo cynllun bwrdd Cwm Taf—fis yn unig ar ôl hynny, cyhoeddwyd adroddiad Coleg Brenhinol y Bydwragedd a Choleg yr Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr. Weinidog, pryd y daethoch yn ymwybodol o gynnwys yr adroddiad hwnnw? Ac a allwch chi egluro i ni—? Rydych wedi dweud wrth Angela Burns eich bod yn meddwl ei bod yn briodol cymeradwyo'r cynllun, ond a allwch egluro i ni, gan na chlywais i chi'n ateb Angela Burns ar hynny o ran—? A oeddech yn gwybod beth oedd yn yr adroddiad hwnnw? Roeddech wedi comisiynu'r adroddiad hwnnw, roeddech yn gwybod bod problemau—a oeddech yn gwybod beth oedd yn yr adroddiad hwnnw cyn iddo gael ei gyhoeddi, cyn i chi gymeradwyo'r cynllun? Os oedd yn briodol i chi gymeradwyo'r cynllun hwnnw, pam ei bod yn amhriodol i chi wrthod—? Pam y gwrthodoch chi gymeradwyo cynlluniau eraill ar gyfer byrddau iechyd lle roedd yna anawsterau mae'n debyg—gadewch inni beidio â sôn am Betsi Cadwaladr—ond am ba bynnag reswm—? Mae'n debyg mai'r hyn rwy'n ceisio'i ofyn, Ddirprwy Lywydd—maddeuwch imi—yw fod pethau'n amlwg mewn cyflwr difrifol iawn mewn rhan o fwrdd iechyd Cwm Taf. Fe ddewisoch chi gymeradwyo eu cynllun. Roedd pethau mewn byrddau iechyd eraill—roedd yn amlwg fod anawsterau eraill: ni wnaethoch gymeradwyo'r rheini. A allech roi ychydig o oleuni inni ar y meddwl y tu ôl i, 'Iawn, fe wnawn ni gymeradwyo cynllun bwrdd Cwm Taf, ond nid ydym am gymeradwyo'r lleill'? Beth oeddent yn ei wneud, neu'n methu ei wneud, a oedd mor ofnadwy o wael nes ei fod yn gwneud i'r hyn a oedd yn digwydd ym mwrdd iechyd Cwm Taf edrych yn gymharol dderbyniol?
Pan ydych yn cymeradwyo cynllun tair blynedd, mae'n rhaid i chi ddeall natur y naratif, yr hyn sy'n cael ei gynnig ac a yw'r gallu yno i gyflawni'r newid sy'n cael ei ddisgrifio yn y cynllun hwnnw. Ac mae cael cyfeiriad strategol yn bwysig iawn i sefydliadau, ni waeth beth yw eu statws uwchgyfeirio. Ac mae'n rhan o'r her yng ngogledd Cymru eu bod wedi bod yn byw o'r llaw i'r genau ers llawer gormod o amser a bydd angen iddynt gael cynllun ar gyfer y dyfodol hyd yn oed os nad ydynt yn newid i fonitro arferol. Mae'n rhan o'r her y maent yn ei hwynebu. Yn Hywel Dda, maent yn cydnabod, hyd nes eu bod yn gwneud mwy i fynd i'r afael â'u heriau ariannol, eu bod yn annhebygol o gael cynllun tair blynedd y gall y bwrdd ei gymeradwyo a disgwyl iddo gael ei gymeradwyo yma.
Roedd y sefyllfa ym mwrdd Cwm Taf yn amlwg yn wahanol. Ar ôl cael cynllun tair blynedd, ar ôl gwneud cynnydd ar ystod o feysydd, a’r heriau ynghylch ansawdd a rhai o’r materion llywodraethu a amlygwyd—aethpwyd i’r afael â rhai o’r rheini dros amser gyda llawer o feirniadaeth yn yr adroddiadau. Ond nid yw'r syniad fod yr holl faterion hynny wedi'u hanwybyddu neu na chawsant eu hamlygu neu eu hystyried yn wir. Ac yn unrhyw un o'r dyfarniadau hyn, mae'n ddyfarniad cytbwys ynglŷn â beth i'w wneud gyda ac ar gyfer y sefydliad hwnnw. Gwneuthum y dyfarniad a wneuthum. Credaf mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud.
Mewn gwirionedd, credaf fod cael cynllun ar waith yn awr ar gyfer bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg yn wirioneddol ddefnyddiol o ran ei gyfeiriad yn y dyfodol. Ond nid yw'n tanseilio nac yn ymbellhau oddi wrth yr heriau ynghylch ansawdd a'r gallu i ddarparu tystiolaeth eu bod yn gwneud y cynnydd y mae'n amlwg yn ofynnol iddynt ei wneud, ac yn wir, mae'r lefel uwch o ddiddordeb a chraffu ar y sefydliad yn gwneud hynny'n amlwg tu hwnt. Rwyf wedi bod yn agored, a byddaf yn parhau i fod yn agored ynghylch unrhyw ddewisiadau a wnaf ar gyfer unrhyw un o sefydliadau'r GIG, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Rwy'n ei chael hi'n anodd deall hyn, ac efallai fod pob un ohonom yn dioddef o flinder yn sgil yr etholiad cyffredinol a bod rhywbeth o'i le gyda fy ymennydd, ond mae'r Gweinidog newydd ddweud ei fod yn hyderus fod gan fwrdd Cwm Taf y gallu i gyflawni'r cynllun tair blynedd a gymeradwywyd ganddo. Nawr, cofiwch, Ddirprwy Lywydd, fod hyn cyn unrhyw un o'r ymyriadau y mae'r Gweinidog wedi dweud y byddant yn datrys popeth. A gadewch imi ddweud yn gwbl glir fod lefel y llywodraethu a'r rheoli bryd hynny, pan gymeradwywyd y cynllun ganddo, yn wirioneddol wael. Nid wyf yn deall o hyd, o'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud, pam ei fod yn barod i gymeradwyo hynny. Naill ai ei fod yn gwybod ac roedd yn credu y gellid goresgyn y broblem, neu nid oedd yn gwybod, ac mae honno'n broblem ynddi'i hun, ond nid oedd yn barod i gymeradwyo'r cynlluniau eraill hynny.
Nawr, os edrychwn yn ôl ar adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r swyddfa archwilio, maent yn dweud yn weddol glir fod y Gweinidog yn mesur y pethau anghywir. Os yw'r cynlluniau hyn yn ymwneud â chyflwr ariannol bwrdd iechyd lleol yn unig, gadewch i ni eu galw'n hynny a gadewch inni fynd i'r afael â hynny, ac nid wyf yn dweud am un eiliad, lle mae byrddau iechyd lleol yn cael trafferth gyda'u trefniadau ariannol, na ddylid rhoi sylw i hynny. Ond ni allaf ddeall sut y teimlai'r Gweinidog fod yr unigolion sy'n rhedeg y bwrdd iechyd hwnnw, a oedd wedi caniatáu i'r diwylliant gwenwynig echrydus hwn ddatblygu—ac mae'n amlwg nad yn y gwasanaethau mamolaeth yn unig y mae'n wirioneddol wael—pan gymeradwyodd y cynllun hwnnw, sut y teimlai eu bod mewn sefyllfa dda i'w gyflawni. Roedd hynny ymhell cyn iddo roi ei fesurau i mewn. Efallai y bydd y mesurau y mae wedi'u rhoi i mewn yn gweithio neu efallai na fyddant yn gweithio. Ni allaf ddeall hynny, ac rwy'n awyddus i wybod gan y Gweinidog a yw'n derbyn bod problemau strwythurol a systematig yn nhrefniadau llywodraethu ac arweinyddiaeth y GIG sy'n mynd y tu hwnt i un bwrdd iechyd ar y tro.
Wel, roedd sawl cwestiwn yn y fan honno, ac wrth gwrs, rwyf wedi dweud eisoes, ni allwch wybod yr hyn nad ydych yn ei wybod wrth wneud dewisiadau. Rhoddais fesurau ar waith i ymyrryd yn y bwrdd iechyd ar ôl derbyn yr adroddiad, ac yna fe'i cyhoeddais ar unwaith. Felly, mae'r ymyrraeth yn dangos ein bod wedi gweithredu pan oedd lefel y pryder yno i wneud hynny. Ac yn wir, roedd rhoi prif weithredwr dros dro ar waith—roedd hwnnw'n gam a gafodd ei feithrin gan y Llywodraeth yma hefyd. Felly, prin y cafwyd gwrthdaro llwyr o ran y bwrdd iechyd. Ac ni chredaf ei bod yn deg rhoi geiriau yng ngheg Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, o ran dweud fy mod i neu fy swyddogion yn mesur neu'n edrych ar y peth anghywir.
Os edrychwch ar yr adolygiadau o'r system a gynhaliwyd yn y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru, cyn y tymor hwn neu ar ddechrau'r tymor hwn gyda'r adolygiad seneddol, nid oes unrhyw un wedi dweud bod problem sylfaenol gyda threfniadau llywodraethu a strwythur y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Yr her i ni yw sut rydym yn sicrhau bod ein strwythurau yn gweithio a sut rydym yn dwyn ein gilydd i gyfrif yn y gwahanol rannau sy'n dimau gweithredol, yn aelodau annibynnol, ac wrth gwrs, yn rhan o'r gwaith craffu rwy'n ei wynebu yma'n rheolaidd hefyd.
Nawr, yn y pen draw, bydd y canlyniadau i bobl ac yn y ffeithiau a'r ffigurau ynghylch yr hyn y mae ein gwasanaeth iechyd yn parhau i'w gyflawni yn datgelu popeth. Mae'n gwbl bosibl bod yn sefydliad sy'n perfformio'n dda a gwneud rhai pethau'n anghywir. Yr her i ni yw cydnabod graddau'r hyn y mae angen iddo wella ym mwrdd Cwm Taf Morgannwg a bod yn agored ynglŷn ag a yw hynny wedi digwydd ai peidio, ac os nad yw wedi digwydd, pa gamau pellach y mae angen eu cymryd.
Wel, wel, 'ni allwch wybod yr hyn nad ydych yn ei wybod'. Wel, Weinidog, roeddech wedi cael saith adroddiad cyn i chi gymeradwyo'r cynllun hwnnw. Roeddech wedi cael saith adroddiad o wahanol rannau o'r gwasanaeth iechyd a ddywedai wrthych fod yna wasanaeth hanfodol a phe baech yn rhoi'r holl dystiolaeth wael honno ynghyd cyn i chi gael adroddiad y coleg brenhinol byddech wedi gweld bod pethau'n mynd yn ddifrifol o chwith.
Mae arnaf ofn na all y Gweinidog sefyll yma a dweud nad oedd yn gwybod, neu os yw'n dweud wrthym nad oedd yn gwybod, mae hynny'n mynd â ni i mewn i faes cwbl wahanol o ran cymhwysedd, ac nid wyf am fynd i'r fan honno y prynhawn yma.
Credaf fod yn rhaid i'r Gweinidog dderbyn—ac nid ni sy'n dweud hyn; Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r swyddfa archwilio sy'n dweud hyn—fod problemau strwythurol systematig gyda'r trefniadau llywodraethu, ac mae Angela Burns yn ddigon caredig i roi rhif y dudalen i ni—tudalen 33. Mae problemau systematig i'w cael nid yn unig yn y bwrdd iechyd hwnnw. Ac onid yw'n bryd i'r Gweinidog edrych eto—edrych ar yr hyn a ddywedodd adroddiad y pwyllgor, a drafodwyd gennym ddoe, ynglŷn â rhai o'r meysydd na fydd y ddeddfwriaeth y mae'n ei chynnig yn mynd i'r afael â hwy?
Onid yw'n bryd iddo ystyried un arolygiaeth iechyd a gofal integredig wirioneddol annibynnol a all edrych ar yr holl faterion hyn yn gyffredinol? Onid yw'n bryd iddo gymryd camau i alinio gweithdrefnau cwynion iechyd a gofal cymdeithasol a sicrhau eu bod yn drylwyr a sicrhau, i'r holl deuluoedd a anwybyddwyd drosodd a throsodd wedi iddynt leisio pryderon yng Nghwm Taf, na fydd hynny'n digwydd eto. Onid yw'n bryd inni gael gweithdrefnau chwythu'r chwiban gwirioneddol annibynnol ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru, oherwydd os yw'r Gweinidog yn credu bod gennym un ar waith, mae'n debyg mai ef yw'r unig berson ar ôl yn y wlad sy'n credu hynny.
Ac onid yw'n bryd, o ran ansawdd yr arweinyddiaeth—ac mae hyn mor bwysig—rheoleiddio rheolwyr anghlinigol y GIG yn briodol, gan gynnwys fframwaith cymhwysedd y cytunwyd arno, strwythurau cyson ar gyfer hyfforddi a datblygu, a gweithdrefnau atebolrwydd ar yr un lefel â'r rheini sydd ar waith ar gyfer clinigwyr proffesiynol? A wnaiff edrych heddiw ar ddifrifoldeb y materion hyn ac ystyried diwygio’r Bil ansawdd ac ymgysylltu, fel y mae’r pwyllgor wedi gofyn, i fynd i’r afael â’r holl faterion hynny, neu'n well byth, ei dynnu’n ôl a’i ailysgrifennu, neu a yw’n disgwyl inni gredu bod popeth yn iawn?
Wel, nid wyf erioed wedi ceisio sefyll a dweud, 'Mae popeth yn iawn, edrychwch y ffordd arall.' Nid dyna fy agwedd o gwbl. Ac ni chredaf fod ymarfer cyfiawnhau ar ôl y digwyddiad yn arbennig o ddefnyddiol nac o gymorth i ddatblygu ein gwasanaeth iechyd gwladol.
Mae'r nifer o faterion a godwyd gan yr Aelod—. Mae ganddi hawl i gael barn sy'n dweud ei bod am ad-drefnu rhannau o'r gwasanaeth iechyd. Mae ganddi berffaith hawl i'r farn honno, ond o ran ceisio dweud mai'r hyn sydd ei angen yn awr yw newid neu dynnu'n ôl y Bil ansawdd a llywodraethu gofal iechyd a basiwyd gan y Cynulliad yng Nghyfnod 1 ddoe, ni chredaf mai dyna'r peth iawn o gwbl. Oherwydd arwyddocâd yr hyn y mae'r Aelod wedi sôn amdano yw bod hon yn ddeddfwriaeth hollol newydd sy'n mynd â ni i gyfeiriad gwahanol, felly yn y rhannau ar ansawdd a gonestrwydd y mae'r Bil yn eu nodi mewn gwirionedd—a byddwn yn craffu ar y Bil hwnnw, drwy Gyfnod 2, a Chyfnod 3 hefyd, gobeithio—mae hynny'n fater cwbl wahanol. Ac rydym wedi sôn eisoes am y materion sy'n ymwneud ag a ddylid cael system reoli a chofrestru hollol wahanol ar gyfer rheolwyr yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae gennyf feddwl agored ynglŷn â sut y gallai a sut y dylai'r dyfodol edrych, ond rwy'n ymarferol o ran sut y cyflawnwn hynny, ac ni chredaf fod ambell araith yn y Siambr a galw am newid deddfwriaeth yn ateb gonest i sut y gallem gyrraedd yno mewn gwirionedd.
Diolch. Llefarydd Plaid Brexit, Caroline Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, cefais fy synnu wrth glywed, o bron i 0.5 miliwn o alwadau 999 y llynedd, nad oedd oddeutu chwarter y galwadau yn rhai difrifol. Roedd staff gwasanaeth ambiwlans Cymru yn brysur yn ymdrin â galwadau a oedd yn amrywio o bobl wedi taro bys eu troed i igian, yn hytrach na helpu pobl mewn gwir angen. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi lansio ymgyrch i annog defnydd synhwyrol o'r gwasanaeth ambiwlans. Weinidog, beth y gallwn ei wneud yma yn y Siambr hon i gefnogi ymgyrch Byddwch yn Ddoeth, Achubwch Fywydau?
Wel, yn anffodus, mae ymgyrch Byddwch yn Ddoeth, Achubwch Fywydau yn cael ei chynnal bob blwyddyn, neu fersiwn ohoni, gan ein bod yn deall yn rheolaidd nad yw rhai pobl yn gwneud y defnydd gorau o'n gwasanaethau brys, ac yn benodol, yn yr achos hwn, gwasanaeth ambiwlans Cymru. Mae'n ymwneud yn rhannol â rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd fel y gallant ddewis drostynt eu hunain—yr ymgyrch Dewis Doeth rydym yn ei chynnal bob blwyddyn—ac mae hefyd yn ymwneud yn rhannol â gofyn i bobl gael rhywfaint o synnwyr cyffredin a dangos parch yn y ffordd y maent yn defnyddio gwasanaeth ambiwlans Cymru. A chredaf y gallai pob un ohonom, ni waeth beth yw ein safbwyntiau pleidiol, roi peth amser i geisio cefnogi a hyrwyddo’r ymgyrch honno fel bod pob un o’n hetholwyr yn gwneud gwell defnydd o wasanaethau brys, a bod y rhai sydd wir angen y gwasanaeth brys hwnnw yn fwy tebygol o gael y cymorth y bydd ei angen arnynt ar yr adeg honno.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Ac wrth gwrs, wrth inni fynd i mewn i'r gaeaf, mae'r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans yn enfawr. Rydym wedi gweld y cyfraddau uchaf erioed o absenoldeb oherwydd salwch yn ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru, sy'n rhoi mwy o bwysau ar y gwasanaeth. Mae trafferth i gael mynediad at ofal y tu allan i oriau yn parhau i yrru cleifion tuag at ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, sydd eisoes wedi eu gorymestyn, ac mae hynny, yn ei dro, yn cael effaith ar amseroedd trosglwyddo ambiwlansys. Felly, Weinidog, pa gamau y mae eich Llywodraeth wedi'u cymryd i sicrhau bod cleifion mewn adrannau brys yn cael eu trosglwyddo'n effeithlon y gaeaf hwn er mwyn sicrhau nad yw ein gwasanaeth ambiwlans yn cael ei ymestyn hyd at dorri?
Wel, mae nifer o fesurau eisoes ar waith ac yn cael eu cyflwyno fel rhan o gynlluniau'r gaeaf. O'r arian a gyhoeddais o'r blaen, aeth rhywfaint ohono'n uniongyrchol i fyrddau iechyd ac aeth rhywfaint i wasanaethau a gyfarwyddir yn genedlaethol, ac yn wir, pennwyd £17 miliwn rhwng y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae llawer o hynny'n ymwneud ag edrych ar y system gyfan. Mae'n ymwneud yn rhannol â chael gwared ar y pwysau o ddrws blaen yr uned ddamweiniau ac achosion brys, ond mae'n llawer mwy na hynny. Mae'n ymwneud â chadw pobl yn iach gartref fel nad oes angen iddynt fynd i adran achosion brys. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn dod allan o'r ysbyty pan nad dyna'r lle iawn ar gyfer eu gofal mwyach. Ac rydym yn ymdrin â'r nifer fwyaf erioed o alwadau ar ein gwasanaeth iechyd. Nid yn unig mai mis Hydref oedd y mis prysuraf o ran y nifer a fynychodd adrannau brys, ond i'r gwasanaeth ambiwlans, hwn oedd y mis Hydref prysuraf erioed, gyda'r nifer fwyaf o alwadau coch erioed—cynnydd o 35 y cant yn y galwadau mwyaf difrifol i'n gwasanaeth ambiwlans ers cyflwyno'r model ymateb clinigol newydd bedair blynedd yn ôl. Felly, mae rhan o'n her yn ymwneud â darparu'r capasiti hwnnw. Byddaf yn nodi eto yn y dyfodol y mesurau sydd eisoes ar waith a sut y mae hynny'n ein helpu i geisio darparu gofal priodol, tosturiol ac amserol hyd yn oed dros gyfnod y gaeaf.