Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Nod ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach', yw cryfhau llais y dinesydd a sicrhau ein bod yn gwrando ar bobl Cymru ac yn ymgysylltu â hwy. Darperir gwybodaeth i gleifion mewn amryw o ffyrdd i geisio diwallu anghenion a dewisiadau amrywiol pobl ledled y wlad.