2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2019.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella cyfathrebu rhwng y GIG a chleifion yng Nghymru? OAQ54738
Nod ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach', yw cryfhau llais y dinesydd a sicrhau ein bod yn gwrando ar bobl Cymru ac yn ymgysylltu â hwy. Darperir gwybodaeth i gleifion mewn amryw o ffyrdd i geisio diwallu anghenion a dewisiadau amrywiol pobl ledled y wlad.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ond nid yn unig fod cyfathrebu rhwng staff y GIG a chleifion yn hollbwysig, rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cytuno y gall cyfathrebu da drwy holl sefydliadau'r GIG fod yn hanfodol i ofal cleifion. Mae etholwyr wedi tynnu ein sylw at sawl achos lle nad yw'r cyfathrebu hwn yn foddhaol yn aml, ac yn benodol, cyfathrebu rhwng Ysbyty Nevill Hall yn fy ardal i ac ysbytai eraill. Mewn un achos penodol, mae eu cyfathrebu ag Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi arwain at ofal gwael i gleifion. Ai dyma ganlyniad symud cleifion drwy wahanol fyrddau ysbytai?
Mae'r bwlch cyfathrebu hwn rhwng cofnodion meddygol cleifion yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd a pharhad y gofal y mae claf yn ei dderbyn. Fel y dywedwyd, mae gwybodaeth dda am drefniadau triniaeth cleifion yn allweddol i ofal a chanlyniadau'r driniaeth honno. Rydym wedi cael gwybod hefyd na all ymarferwyr meddygol, yn rhyfedd iawn, gan gynnwys meddygon ymgynghorol, gael mynediad uniongyrchol at wybodaeth cleifion o Felindre. A wnaiff y Gweinidog edrych yn ofalus ar y methiannau ymddangosiadol hyn?
Rydym wedi wynebu her wirioneddol wrth sicrhau, wrth inni normaleiddio'r ffordd rydym yn defnyddio gwybodaeth yn ein bywydau bob dydd, fod y gwasanaeth iechyd yn dal i fyny â hynny, yn y ffordd rydym yn symud y cofnodion rydym yn eu creu ar raddfa ddiwydiannol, gyda'r holl wahanol episodau gofal cleifion y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu darparu—dros 18 miliwn o ryngweithiadau cleifion mewn un flwyddyn mewn gwlad ag ychydig dros 3 miliwn o boblogaeth. Yr her i ni yw sicrhau bod yr wybodaeth ar gael wrth law i'r bobl sydd ei hangen pan fyddant yn darparu gofal gyda ac ar gyfer yr unigolyn hwnnw.
Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd dros y 10 mlynedd diwethaf yn hynny o beth, ond yr her i ni yw fod mwy o lawer i'w wneud o hyd. Dyna pam fod y cyhoeddiadau a wneuthum ar seilwaith digidol a chysylltedd yn y gwasanaeth mor bwysig, a dyna pam fod cael system addas i'r diben newydd mewn gofal sylfaenol yn bwysig hefyd—i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i bwy bynnag sydd ei hangen, ac yn fwy na hynny, yn y rhaglen ddiwygio contractau sydd gennym, i sicrhau bod gennym fersiwn o gofnod y claf ar gael i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill rydym yn eu cyfarwyddo ac yn annog pobl i'w defnyddio, boed hynny ym maes offthalmoleg ar y stryd fawr mewn siop optegydd, neu'n wir, mewn fferyllfa neu leoliadau eraill.
Weinidog, yn ddiweddar, lansiodd Comisiynydd y Gymraeg ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog ymhellach yn y GIG yng Nghymru. Rhybuddiodd fod cleifion sy'n siarad Cymraeg yn dioddef ac y gallant wynebu risg, hyd yn oed, os na allant gyfathrebu â gweithwyr iechyd proffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dengys ymchwil ryngwladol fod pobl â dementia yn colli'r gallu i gyfathrebu yn eu hail iaith ar ôl peth amser neu pan fyddant yn hŷn. Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu cynllunio fel y gall cleifion dderbyn triniaeth a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg neu eu hiaith eu hunain? Diolch.
Rydym yn gwneud ymdrechion sylweddol i feddwl ynglŷn â sut rydym yn recriwtio a hyfforddi pobl, a sut rydym yn agor y drws i yrfaoedd mewn gofal iechyd yn llawer cynharach. Er enghraifft, rydym wedi gwneud peth gwaith gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg ar annog rhai o'u myfyrwyr i ystyried gyrfa yn y gwasanaeth iechyd, nid yn unig i fod yn feddyg ond yr ystod ehangach o wasanaethau gofal sydd ar gael.
Pan feddyliwn am yr hyn a wnawn i gefnogi pobl, er enghraifft, rydym yn cadw'r fwrsariaeth i sicrhau bod pobl sy'n astudio'n lleol mewn ystod o rolau nyrsio a gofal iechyd proffesiynol cysylltiedig ehangach yn cael eu cefnogi gan y fwrsariaeth. Golyga hynny fod pobl sy'n lleol i'w cartref yn fwy tebygol o astudio'n lleol ac yn fwy tebygol o barhau i weithio yno, gan nad yw ystod o'r bobl hynny'n israddedigion traddodiadol 18 neu 19 oed. Pan fyddant yn cychwyn, maent yn aml yn bobl sydd â'u cyfrifoldebau eu hunain.
Felly, mae ble a sut rydym yn hyfforddi ein staff, a ble a sut rydym yn eu recriwtio, yn bwysig. Mae sicrhau bod pobl yn ymwybodol fod gyrfa yn y gwasanaeth iechyd yn agored ac ar gael iddynt yn gynharach o lawer yn rhan o'r gwaith a wnawn i wneud yn union hynny.
Weinidog, rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod sydd wedi cael problemau'n ymwneud â chleifion yn ceisio cymorth i gael eu clustiau wedi'u chwistrellu gan eu meddyg teulu, a chael eu cyfeirio'n anghywir at y sector preifat, lle maent yn codi hyd at £75. Felly, a allech ddweud wrthym sut y byddwch yn sicrhau bod meddygfeydd yn cyfathrebu'n gywir â chleifion ynglŷn â sut y gallant gael mynediad at y gwasanaethau hyn o fewn gofal eilaidd, os na allant gael y gwasanaeth hwnnw gan eu meddyg teulu eu hunain?
Pwynt am yr iaith yn unig yw'r pwynt cyntaf, oherwydd mae chwistrellu clustiau yn ddull arbennig o gael gwared â chwyr nad yw bellach yn cael ei gymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ac felly rydym yn ceisio peidio â chyfeirio at chwistrellu clustiau—gwn nad yw'n ymwneud â newid iaith yn unig, mae'n ddull arbennig ynddo'i hun—ond yn hytrach at reoli cwyr clust, i geisio sicrhau, lle bo'n bosibl, fod pobl yn gallu ei reoli eu hunain neu'n wir, os oes angen ymyriad arnynt, ei fod yn cael ei ddarparu. Gwasanaeth GIG ydyw, felly ni ddylid atgyfeirio pobl i'r sector preifat a dweud wrthynt nad oes gwasanaeth GIG ar gael. Mae amrywiaeth o gynlluniau peilot yn digwydd o fewn y gwasanaeth iechyd, rhai yng ngogledd-ddwyrain Cymru, i sicrhau bod clinigau awdioleg gofal sylfaenol ar gael, ond hefyd yn ne-orllewin Cymru yng nghlwstwr Cwm Tawe. Maent yn gweithredu yn yr un math o ffordd drwy sicrhau bod awdioleg ar gael yn ehangach o lawer. Byddwn yn ail-gyfathrebu â chydweithwyr ym maes gofal sylfaenol ynglŷn â'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael, ac yn ailadrodd y neges mai gwasanaeth GIG Cymru ydyw a dylai pobl gael darparwr GIG i wneud hynny.