Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:01, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n anodd darllen y data perfformiad a fydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yr wythnos hon, gan ei fod yn dangos problemau sylweddol mewn nifer o feysydd. Ym mis Hydref, arhosodd ambiwlansys y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys am 2,778 o oriau, ac mae amseroedd aros ar gyfer gofal wedi'i gynllunio'n gwaethygu hefyd, gyda 4,256 o gleifion yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth, cynnydd o fwy na 2,000 ers mis Ebrill. Nawr, er bod y bwrdd iechyd wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu ers mis Medi 2016, mae'r ffigurau mewn llawer o feysydd yn gwaethygu yn hytrach na gwella, ac mae'n adlewyrchiad o ddiffyg capasiti mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, beth rydych yn ei wneud i wella'r sefyllfa, Weinidog?