Gwella Cyfathrebu rhwng y GIG a Chleifion

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:59, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod sydd wedi cael problemau'n ymwneud â chleifion yn ceisio cymorth i gael eu clustiau wedi'u chwistrellu gan eu meddyg teulu, a chael eu cyfeirio'n anghywir at y sector preifat, lle maent yn codi hyd at £75. Felly, a allech ddweud wrthym sut y byddwch yn sicrhau bod meddygfeydd yn cyfathrebu'n gywir â chleifion ynglŷn â sut y gallant gael mynediad at y gwasanaethau hyn o fewn gofal eilaidd, os na allant gael y gwasanaeth hwnnw gan eu meddyg teulu eu hunain?