Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Mae'r bleidlais hon heddiw yn garreg filltir bwysig. Ugain mlynedd ar ôl cael ei sefydlu fel Cynulliad, prin iawn ei bwerau, rydyn ni'n pasio Deddf heddiw, gobeithio, sydd yn nodi yn ffurfiol flodeuo y Cynulliad hwnnw i mewn i Senedd genedlaethol i'n gwlad, ond sydd hefyd yn gwahodd mwy o'n dinasyddion ni—ein dinasyddion ifanc ni—i fod yn rhan o'r prosesau gwleidyddol a democrataidd sy'n sylfaen i'n bodolaeth ni fel sefydliad.
Drwy ymestyn yr hawl i bleidleisio i'n dinasyddion 16 a 17 oed, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ymddiried yn ein pobl ifanc ni, yn barod i wrando ar eu barn, yn cymryd eu dyheadau nhw o ddifrif. Dwi’n hyderus y gwnaiff o hefyd newid y ffordd rydyn ni’n cyfathrebu ein negeseuon ni efo yr etholwyr yn gyffredinol, ac, yn fwy na hynny, yn newid y ffordd rydyn ni’n llunio polisi ac yn dod i benderfyniadau ynglŷn â deddfwriaeth yn y lle yma.
Mae wedi bod yn destun balchder i fi—a dwi'n siarad ar ran pawb ohonom ni, dwi'n siŵr—o weld y modd mae’n Senedd Ieuenctid newydd sbon ni wedi creu cymaint o argraff yn ei blwyddyn gyntaf. Mae'n brawf, os oedd unrhyw un angen y prawf hwnnw, fod gan ein pobl ifanc ni gyfraniad enfawr i’w wneud tuag at lunio byd a siapio dyfodol sydd, wedi’r cyfan, yn eiddo iddyn nhw.
Mae yna elfennau eraill pwysig i’r Bil, o ran gwaith y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd, er enghraifft, ynglŷn â chymhwysedd i sefyll mewn etholiadau. Mae o'n Fil sy’n un technegol bwysig yn hynny o beth, wrth i ni gymryd cyfrifoldeb am ein trefniadau etholiadol ein hunain.
Ond gadewch i fi droi at yr elfen arall yna sydd wedi bod yn destun cryn drafod dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, ac elfen sydd wedi fy siomi i a'm cyd-Aelodau ar y meinciau yma'n arw iawn o ran agwedd Llywodraeth Lafur Cymru. Sôn ydw i am enw y sefydliad yma.
Mi egluraf i eto nad am y disgrifiad dwi'n sôn. Mae'r Bil yn disgrifio y Senedd yma—y sefydliad yma—am y tro cyntaf fel 'Senedd' yn Gymraeg, 'Parliament' yn Saesneg. Mae hynny yn bwysig achos mi roddwyd yr enw 'Cynulliad' i ni er mwyn ein gosod ni yn israddol i'r Senedd newydd agorwyd yn yr Alban yr un pryd. Mi ellwch chi ddadlau bod dim ots, nad enw sy'n bwysig ond beth rydyn ni'n ei wneud ac, wrth gwrs, mae hynny'n wir. Ond mae o'n bwysig. Mae canfyddiad yn bwysig ac mae dod yn Senedd, yn Parliament, yn adlewyrchu'r ffaith bod hwn yn sefydliad gwahanol iawn bellach—yn ddeddfwrfa efo pwerau trethu.
Ond cyfle oedd yna yn fan hyn i wneud pwynt arall o egwyddor, i ddweud wrth y byd nad jest unrhyw senedd, nid unrhyw parliament, ydym ni, ond corff neilltuol Cymreig. Y cynnig oedd ein galw ni yn 'Senedd' yn swyddogol fel enw. Enw i bawb, enw Cymraeg ei iaith, dwyieithog yn ei ddefnydd. Fel cymaint o eiriau eraill, fel ein hanthem genedlaethol ni, modd i ddangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ein bod ni'n hyderus yn ein treftadaeth, yn unedig yn ein dyfodol ac yn dathlu'r hyn sy'n ein gwneud ni yn unigryw fel gwlad.
Dwi a Phlaid Cymru'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cydweithio efo nifer o Aelodau Llafur y meinciau cefn ar hyn. Ond dyna ni, colli wnaethom ni wrth i'r Llywodraeth Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisio fel bloc i atal hynny ac i fynd, yn hytrach, am Senedd Cymru/Welsh Parliament.
Doedd yna ddim rhwystr gyfreithiol. Mae pob cyngor yn cadarnhau hynny. Diffyg hyder oedd o, efallai. Rhyw ofn, tybed? Ofn beth neu bwy, dwi ddim yn siŵr, gan fod arolwg barn wedi dangos yn wythnos y trafod ar Gyfnod 3 fod pobl Cymru yn cefnogi yr enw 'Senedd.' Llywodraeth sy'n barod i anelu am 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ond sydd, hyd yn oed yn y ffordd fach yma, yn amharod i roi un platfform bach i'r Gymraeg er mwyn ei normaleiddio i bawb mewn deddfwriaeth.
Mi ydym ni wedi ennill drwy default, mewn ffordd, achos mewn ateb ysgrifenedig yr wythnos yma mi gadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol eto mai y 'Senedd' fyddai Llywodraeth Cymru'n ei ddefnyddio, gan cynnwys mewn peth deddfwriaeth. 'Aelod o'r Senedd' a 'Member of the Senedd' fydd ein teitlau ni fel Aelodau. Felly, Senedd fyddwn ni.