5. Dadl Cyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:29, 27 Tachwedd 2019

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth gyflwyno'r cynnig yma heddiw i gymeradwyo'n derfynol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), dwi eisiau cymryd y cyfle i gloriannu yn fyr hanes y Mesur yma a'i gynnwys.

Mae i'r Bil sawl agwedd: ailenwi y Cynulliad yn 'Senedd', newid yr etholfraint, newid y categorïau o bobol sy'n anghymwys i sefyll etholiad i'r Cynulliad neu i wasanaethu fel Aelod. Heddiw, byddwn yn pleidleisio ar Fil sydd angen o leiaf 40 pleidlais i basio. Bil cyfansoddiadol yw hwn, a'r pwerau i ni greu deddfwriaeth o'r math yma ond wedi eu datganoli i'r Cynulliad yma yn 2017. Dyma un o’r ychydig achlysuron yn ein Senedd pan fo angen uwchfwyafrif i basio deddfwriaeth. Yr achlysur diwethaf oedd pleidlais ar refferendwm 2011 ar bwerau deddfu cynradd. Dan Reol Sefydlog 6.21, bydd gan y Dirprwy Lywydd a minnau’r cyfle i bleidleisio ar y Bil yma, ac mi fyddaf i a'r Dirprwy Lywydd, mae'n debyg, yn defnyddio ein hawl i bleidleisio y prynhawn yma.

Heddiw, felly, mi fyddwn yn pleidleisio ar roi'r bleidlais i bobol ifanc 16 ac 17 yn etholiadau'r Senedd yma yn 2021. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 1969 a ostyngodd yr oedran pleidleisio o 21 i 18, ac felly mae’r ddarpariaeth i ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 oed yn un hir ddisgwyliedig i rai. Ym Mai 2013, pleidleisiodd mwyafrif clir o Aelodau’r Senedd yma o blaid gostwng yr oedran pleidleisio unwaith eto. Mi gymerodd 10,000 o bobl ifanc ran mewn ymgynghoriad gan y Comisiwn yn 2014 ar yr oedran pleidleisio. Mae'r rhan fwyaf o'r bobol ifanc hynny yng nghanol eu 20au erbyn heddiw. Dyma gyfle i wireddu eu dymuniad nhw bryd hynny, ac i wneud y bleidlais yn realiti i bobl ifanc heddiw.

Fe ddaeth yr argymhelliad i newid y ddeddfwriaeth ar anghymwyso o waith y pwyllgor cyfansoddiadol yn y pedwerydd Cynulliad, ac fe ddaeth y dymuniad i ailenwi y Cynulliad i adlewyrchu ein cyfrifoldebau seneddol gan bleidlais ganddom ni yma yn 2016. Ffrwyth y gwaith a'r penderfyniadau yma sydd wrth wraidd y ddeddfwriaeth yma heddiw.

Diolch i banel arbenigol Laura McAllister am y gwaith a'r argymhelliad ar bleidleisio 16 ac 17 hefyd, a diolch hefyd i bwyllgorau'r Cynulliad yma am waith sgrwtini manwl i ddylanwadu ar y Bil sydd ger ein bron heddiw. Gair o ddiolch personol a phenodol wrthyf i i'r tîm staff arbennig sydd wedi cyd-weithio gyda fi ar ddatblygiad y Mesur yma. Gallwn fod yn hyderus fod gan y Comisiwn bobl o'r safon uchaf posib yn rhoi cefnogaeth i ni fel Aelodau ar ddeddfwriaeth, a dwi'n hynod o ddiolchgar i'r tîm brwd a phroffesiynol o staff a weithiodd gyda fi ar y ddeddfwriaeth yma. Hefyd, yn yr un modd, i'r staff o fewn y Llywodraeth a gyfrannodd at agweddau o'r Mesur hefyd; diolch iddyn nhw yn yr yn modd.

Wrth gwrs, mae'r Bil yr ydym heddiw, ym mis Tachwedd, yn pleidleisio arno yn wahanol i'r Bil a gyflwynais i ym mis Chwefror eleni, mewn amryw o ffyrdd. Yn gyntaf, enw swyddogol yn y Gymraeg a’r Saesneg fydd i'r Senedd—Senedd Cymru a Welsh Parliament. Hefyd, bydd yr etholfraint yn cynnwys gwladolion tramor cymwys. Bydd cynghorwyr yn anghymwys i fod yn Aelodau o’r Senedd, a bydd y Comisiwn Etholiadol yn cael ei gyllido gan ac yn atebol i’r Cynulliad am etholiadau Cymreig.

Gwn nad yw pob grŵp gwleidyddol yn fodlon gyda phob un o’r elfennau yma. Grŵp Plaid Cymru a rhai Aelodau eraill, gan gynnwys minnau, fel mae'n digwydd, yn anfodlon gyda'r newid i enw dwyieithog; y grŵp Torïaid yn fodlon gyda'r newid hwnnw, ond yn anfodlon gyda chyflwyno pleidleisiau i wladolion tramor cymwys. Mae Bil yn newid dros gyfnod sgrwtini a byddwn yn gofyn i Aelodau, wrth bleidleisio, i gadw mewn cof y cyfanwaith yr ydym yn creu heddiw. Bil sy'n rhoi enw ar ein deddfwrfa sy’n adlewyrchiad gwirioneddol o’i statws cyfansoddiadol, ac yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o gyfrifoldebau’r Senedd. Bil hefyd sy’n creu Senedd sy’n fwy cynhwysol, amrywiol ac effeithiol, ac a fydd yn cryfhau ein democratiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Mae'n wir fod angen mwy o newidiadau ar ein Senedd, a bydd hynny angen deddfwriaeth eto yn y dyfodol agos gobeithio. Ond, am heddiw, dewch i ni gymryd y cam pwysig yma i bleidleisio dros gryfhau sail ein democratiaeth seneddol yma yng Nghymru.