Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Rydych chi'n hollol iawn i ddweud mai dyna'r sefyllfa y mae Cymru yn ei hwynebu yn awr. Ar y diwrnod ar ôl annibyniaeth, ar ddiwrnod annibyniaeth, dyna fyddai'r sefyllfa. Felly, ni fydd dweud, 'Wel, mae'n mynd i fod yn heriol ac ni fyddem wedi bod yn y sefyllfa hon o'r blaen' o unrhyw bwys pan fydd pobl yn gweld bod eu trethi'n codi, nad oes digon o arian i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus, a bod pobl yng Nghymru yn waeth eu byd.