7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyllid Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:41, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Mae rhywbeth yn hynod o ragweladwy ynghylch dadleuon fel hyn ar gyllid i Gymru. Mae'r Ceidwadwyr yn taro Llafur, Llafur yn taro'r Ceidwadwyr, mae'r Torïaid yn dweud bod y cyfan yn ymwneud â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian, mae Llafur yn dweud mai bai Llywodraeth y DU yw hyn i gyd, ac mae'n gylch o feio sy'n bodloni'r ddwy blaid. Gall y ddwy daflu baw gwleidyddol at ei gilydd, ac mae Cymru'n cael ei baeddu yn y canol, ei sefyllfa ariannol ac economaidd heb ei datrys, tlodi heb ei drechu, anghydraddoldebau dwfn, a'r ddwy blaid yn y DU yn ceisio ffordd o wadu'n gredadwy eu bai eu hunain drwy ddadlau mai bai'r llall ydyw: 'Nhw, nid ni, sydd ar fai.' Ie, ewch chi.