7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyllid Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:46, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, dangosodd adroddiadau annibynnol olynol yn dilyn chwalfa'r banciau fod Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU wedi anwybyddu rhybuddion ac wedi rheoleiddio'r banciau yn llai llym. Erbyn 2010 cyllideb y DU oedd y waethaf yn y G20, ar ôl Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr UE. Felly, gwaddol, nid dewis, oedd y cyni a etifeddwyd gan Lywodraeth y DU a ddaeth i rym yn 2010.