Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 27 Tachwedd 2019.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Ar y ffigur iechyd hwnnw, nid wyf yn anghytuno â chi. Nid oes gennyf y ffigurau wrth law, ond nid wyf yn anghytuno â chi y gallai'r ffigur fod yn uwch yma, ond wrth gwrs, nid dyna'r broblem o anghenraid. Y broblem yw cyfradd y cynnydd yn y gyllideb iechyd yng Nghymru mewn perthynas â rhannau eraill y DU, a dyna lle—. Am eich bod yn dechrau gyda bloc o arian, fel roedd gennym ar ddechrau datganoli, os nad yw hwnnw'n cynyddu ar lefel briodol, dyna fydd yn achosi'r problemau, nid o reidrwydd y swm cyfan o arian.