Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Ie, ac enillwyd yr arian hwnnw drwy flynyddoedd caled o negodiadau ar ran Llywodraeth Cymru dan arweiniad Mark Drakeford.
I droi'n ôl at fater y tanfuddsoddi cyson gan Lywodraeth y DU mewn meysydd sydd heb eu datganoli yng Nghymru, rhwng 2011 a 2016, cyfrannodd Llywodraeth Cymru tua £362 miliwn tuag at wariant sector cyhoeddus ehangach ar reilffyrdd Cymru. Buddsoddwyd dros £220 miliwn gennym hefyd i wella'r seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys cyllid o gronfeydd strwythurol yr UE. Ac yn ystod yr un cyfnod, dewisodd Llywodraeth y DU fuddsoddi £198 miliwn yn unig ar wella'r rhwydwaith yng Nghymru—prawf, rwy'n credu, fod eu blaenoriaethau mewn mannau eraill.
Drwy Cyflymu Cymru, mae cyfanswm o bron i £230 miliwn o arian cyhoeddus wedi'i fuddsoddi i ddarparu mynediad i fand eang cyflym iawn i 733,000 o gartrefi a busnesau, a gadewch i ni fod yn glir: cartrefi a busnesau yw'r rhain na fyddent fel arall yn gallu cael mynediad at fand eang. Buddsoddwyd £146 miliwn o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a'r UE, a dim ond £67 miliwn ohono a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU. Lywydd, dyma gyllid pwysig y gellid bod wedi ei wario ar wasanaethau datganoledig, ond cawsom ein gorfodi i gamu i mewn lle mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyflawni ei chyfrifoldebau.
Gan droi at gylch gwariant y DU eleni, gadewch imi roi crynodeb byr o'r hyn y mae'n ei olygu i'n cyllideb. Ond cyn i mi wneud hynny, rhoddaf sylw i'r pwynt y credaf fod Nick Ramsay wedi ei wneud o ran dymuno gweld buddsoddiad mwy hirdymor a phroffil gwariant mwy hirdymor. Wel, mae hynny'n rhywbeth rydym yn amlwg yn ei rannu yn Llywodraeth Cymru ond yn anffodus, er inni gael addewid o adolygiad cynhwysfawr o wariant dros dair blynedd, cawsom gynnig cylch gwariant un flwyddyn nad yw hyd yn oed yn rhoi hyder i ni ynglŷn â gwariant yn y dyfodol fel y mae rhai o adrannau Llywodraeth y DU yn ei gael.
Yn ein cyllideb ar gyfer 2021, fe fydd 2 y cant neu £300 miliwn yn llai mewn termau real o gymharu â 2010-11. Ac wrth gwrs, ceir effaith dewis Trysorlys y DU i ymddwyn yn anghyfrifol gyda'r rheolau cytunedig sydd gennym ar ddyraniadau cyllid. Eleni, arweiniodd yr ymagwedd honno at ddiffyg o £35 miliwn yn ein cyllideb yn dilyn methiant Llywodraeth y DU i ariannu'n llawn y cynnydd ym mhensiynau'r sector cyhoeddus. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y diffyg hwnnw'n codi i tua £50 miliwn y flwyddyn nesaf, felly dyna £50 miliwn nad wyf yn gallu ei roi tuag at ysgolion ac ystafelloedd dosbarth yng Nghymru; mae'n £50 miliwn nad yw'n mynd i'r gwasanaeth iechyd; mae'n £50 miliwn na all fynd bron hanner ffordd tuag at y gwariant y byddai Angela Burns yn hoffi ei weld ar gyflwyno mwy o nyrsys i Gymru. Felly, dyna'r holl arian na ellir ei wario yng Nghymru am na chawsom ein cyfran deg gan Lywodraeth y DU.
Dylai canlyniad truenus degawd o gyni fod yn destun embaras mawr i'r Ceidwadwyr Cymreig, ac nid ydym am dderbyn unrhyw wersi gan Lywodraeth y DU ar fuddsoddi mewn iechyd ac addysg. Mae gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yma yng Nghymru yn fwy na £3,000, a dyna'r swm uchaf ym mhedair gwlad y DU. Roedd gwariant y pen ar addysg yng Nghymru yn fwy na £1,300, sydd 6 y cant yn uwch nag yn Lloegr.
Dan lyffethair degawd o gyni, rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus lle mae'r angen mwyaf. Rydym wedi ymrwymo yn ein maniffesto, ac mae'n rhaid i mi ddweud—