Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw a'r cyfle i amlinellu realiti'r hyn sydd wedi digwydd i gyllid Cymru mewn gwirionedd. Yn fyr, pe bai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi tyfu yn unol â'r economi ers 2010-11, byddai £4 biliwn yn uwch y flwyddyn nesaf. Yn erbyn y cefndir llwm hwn, rwy'n teimlo ei bod hi'n rhyfeddol fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dewis trafod mater cyllid Llywodraeth y DU i Gymru yn ystod etholiad cyffredinol. Eu dewis hwy yn llwyr yw hynny, ond pe bawn i yn eu hesgidiau hwy, yn sicr nid yw'n rhywbeth y buaswn am dynnu sylw ato.