1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Rhagfyr 2019.
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yn Nwyrain De Cymru? OAQ54811
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Un o'n blaenoriaethau ar unwaith ar gyfer y GIG yn Nwyrain De Cymru yw cwblhau'r buddsoddiad o £350 miliwn yn Ysbyty Athrofaol 470 gwely y Grange. Bydd yn darparu gwasanaethau salwch acíwt a chritigol arbenigol i dros 600,000 o bobl yn y de-ddwyrain.
Diolch, Prif Weinidog. Cysylltodd un o'm hetholwyr â mi yn ddiweddar gyda phryderon difrifol am y ffordd y mae bwrdd iechyd Cwm Taf wedi bod yn ymdrin â'i achos. Nawr, rhoddwyd llawdriniaeth iddo tua degawd yn ôl i gael gwared â melanoma malaen, a oedd yn llwyddiannus, diolch byth, ond dywedwyd wrtho y byddai angen archwiliadau blynyddol am weddill ei oes i fonitro'r sefyllfa. Ers hynny mae wedi datblygu brychni haul ar ei lygaid, sy'n anfalaen, ond gallen nhw droi'n ganseraidd, ac, yn amlwg, oherwydd ei hanes meddygol, mae'n bwysicach fyth ei fod yn cael archwiliadau blynyddol.
Yn ddiweddar mae ei geisiadau am apwyntiad gan Gwm Taf wedi cael eu gwrthod ar sawl achlysur a daeth y cyfan i'r pen pan dderbyniodd lythyr gan gwmni iechyd preifat, o'r enw Community Health and Eye Care, yn gweithredu ar ran y bwrdd iechyd, a ddywedodd wrtho nad oedd angen rhagor o apwyntiadau arno gyda meddyg ymgynghorol ac yn hytrach, pe byddai'n dymuno, y byddai'n cael gweld optegydd bob hyn a hyn. Nawr, cysylltodd fy etholwr â'i feddyg ymgynghorol yn uniongyrchol wedyn, a oedd yn bendant bod angen archwiliadau blynyddol arno gyda meddyg ymgynghorol. Prif Weinidog, a allech chi ddweud wrthym ni beth yw perthynas Community Health and Eye Care gyda bwrdd iechyd Cwm Taf, ac a ydych chi'n cytuno â mi y byddai'n gwbl annerbyniol i fwrdd iechyd yng Nghymru gyflogi cwmni preifat i dorri rhestrau aros trwy atal apwyntiadau i gleifion y mae nhw eu hangen am resymau iechyd?
Llywydd, nid wyf i'n gyfarwydd â'r manylion, wrth gwrs, am yr achos unigol, a chan nad yw Cwm Taf yn Nwyrain De Cymru, nid wyf i wedi dod yn barod gyda'r holl fanylion i ateb y cwestiwn y prynhawn yma. Ond yr hyn yr wyf i yn ei wybod yw bod y Gweinidog wedi diwygio yn ddiweddar y ffordd y mae gwasanaethau offthalmoleg yn— [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg iawn gen i, nid wyf i'n gallu clywed y—
Gofynnaf i'r Prif Weinidog barhau i ateb y cwestiwn.
Rwy'n gwybod yn gyffredinol—rwy'n ceisio rhoi cymaint o gymorth ag y gallaf i'r Aelod yn ei chwestiwn—bod y Gweinidog wedi diwygio'r ffordd y darperir gwasanaethau offthalmoleg yng Nghymru i wneud yn siŵr bod apwyntiadau dilynol yn cael eu trin yn union fel y byddai apwyntiadau cyntaf wedi cael eu trin yn y system flaenorol, gan ein bod ni'n gwybod bod 90 y cant o gleifion dilynol yn debygol o fod angen y math o ofal parhaus y cyfeiriodd Delyth Jewell ato yn yr achos unigol y mae wedi ei nodi y prynhawn yma.
Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud y defnydd mwyaf posibl o'r unigolion medrus iawn sydd gennym ni yn ymarfer offthalmoleg yn y gymuned. Mae gennym ni adnodd nad yw'n cael ei ddefnyddio'n ddigon aml. Rydym ni'n gwybod hyn ers nifer o flynyddoedd—bod pobl yn cael eu hanfon i'r ysbyty ar gyfer apwyntiadau pan allai'r cyflyrau hynny gael yr un lefel o sylw clinigol gan ein hoptegwyr hynod hyfforddedig sy'n gweithredu ar y stryd fawr.
Felly, ein polisi yw gwneud y defnydd mwyaf posibl o wasanaethau cymunedol, fel bod pobl sydd angen gwasanaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn gallu ei gael yn gyflymach gan nad ydyn nhw'n aros y tu ôl i bobl a allai fod wedi derbyn gofal sydd ei angen arnyn nhw mewn modd yr un mor rhwydd ac yn fwy cyfleus yn y gymuned. Rwy'n fwy na pharod i edrych ar yr achos unigol i weld a yw'r egwyddorion hynny wedi eu rhoi ar waith yn briodol yn yr achos hwnnw, ond dyna'r dull sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn o ran y gwasanaethau hyn.