1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Rhagfyr 2019.
5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd yn Nwyrain Casnewydd? OAQ54793
Diolchaf i John Griffiths am hynna. Mae'n rhaid i gamau i wella iechyd y cyhoedd ddechrau o oedran cynnar, Llywydd, ac rwy'n llongyfarch ysgolion Casnewydd, y mae pob un ohonynt yn aelodau o rwydwaith ysgolion iach Cymru, ac y mae wyth ohonyn nhw eisoes wedi ennill y lefel uchaf o ddyfarniad cenedlaethol am eu gwaith yn hybu iechyd ymhlith eu pobl ifanc. Mae wyth ysgol arall yng Nghasnewydd ar y trywydd iawn i gyrraedd y garreg filltir wirioneddol arwyddocaol hon.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac yn arbennig am dynnu sylw at y gwaith da iawn sy'n digwydd yn ysgolion Casnewydd, yr wyf i'n amlwg yn gyfarwydd iawn ag ef.
Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, ac mae ehangder y problemau anadlu erbyn hyn yn rhywbeth tebyg i un ym mhob pump o bobl yn y DU gydag anawsterau anadlu. Yn amlwg, mae aer glân yn ffordd allweddol o leddfu a gobeithio, maes o law, cael gwared ar y problemau hynny. Mae angen i ni gyrraedd y cam lle mae pobl yn anadlu aer glân gydag ysgyfaint iach.
Un ffordd bwysig o gyrraedd y sefyllfa honno, Prif Weinidog, yw mynd i'r afael â thraffig ffyrdd, gan gael pobl a nwyddau ar drafnidiaeth gyhoeddus gymaint â phosibl. Gwn fod llawer o bolisïau ar waith, a llawer o syniadau ymarferol i helpu i gyflawni hynny, ond, yn amlwg, mae angen gwneud hynny cyn gynted â phosibl. Gwn y bu llawer o ymgyrchoedd, ac yn wir, achos llys, i geisio sicrhau gwell ansawdd aer yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol, ac mae rhai awdurdodau lleol wedi ymateb. Rwy'n falch iawn bod Cyngor Dinas Casnewydd yn cyflwyno cynigion erbyn hyn, yn wir, gyda phartneriaid iechyd cyhoeddus. Ond mae llawer o syniadau o gwmpas pan fyddwch yn cyfarfod â grwpiau, Prif Weinidog. Mae gennym ni ein gwaith ar y terfyn cyflymder o 20 mya yn mynd rhagddo, yr holl welliannau teithio llesol y mae angen i ni eu gwneud, mae parthau gwahardd weithiau o amgylch ysgolion, ceir syniadau ynghylch gwahardd ceir llonydd rhag cadw'r injan yn troi a sicrhau bod bysiau a thacsis—
Mae angen i chi ddod i gwestiwn nawr, John Griffiths.
Diolch, Llywydd. Felly, dim prinder syniadau, Prif Weinidog, ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod angen i ni gael synnwyr o frys o ran sut yr ydym ni'n gwneud y newid hwn.
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â John Griffiths ynglŷn â phwysigrwydd y mater a'r angen am frys. Bydd y Gweinidog, Lesley Griffiths, yn gwneud datganiad ar lawr y Cynulliad yr wythnos nesaf, rwy'n credu, ar y cynllun aer glân i Gymru. Yn y cyfamser, mae'n dda iawn gweld bod cyngor Casnewydd wedi cyflwyno i Lywodraeth Cymru ei strategaeth teithio cynaliadwy newydd, sydd ag aer glân yn ganolog i hynny. Ac, fel y dywedodd John Griffiths, Llywydd, cyhoeddodd y bwrdd iechyd lleol ar gyfer ardal Gwent ym mis Medi 'Creu Gwent Iachach'; mewn cynhadledd ar 6 Tachwedd, roedd yr angen am aer glân a'i effaith ar iechyd pobl yn rhan bwysig o'r drafodaeth fywiog iawn honno. Oherwydd mae John yn iawn: nid oes prinder o syniadau yn y maes hwn, a bydd angen i ni, mewn sawl ffordd, fod yn fwy beiddgar o ran ein parodrwydd i ymgymryd â rhai o'r syniadau hyn, a fydd, heb os, yn cynnwys meysydd lle y bydd pobl yn ei chael hi'n anodd addasu eu hunain i'r camau y mae angen eu cymryd. Ond mae'n rhaid i ni fod o ddifrif am aer glân—mae'n fater iechyd cyhoeddus gwirioneddol, ac mae defnyddio'r trydydd sector, drwy Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac eraill, i ychwanegu at y repertoire yn rhan bendant o sut yr ydym ni'n dymuno bwrw ymlaen.