Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Yn dilyn trafodaethau gydag etholwyr ynghylch y defnydd o'r rheilffordd ac yn dilyn y ddadl a gawsom bythefnos yn ôl, cyfarfûm â swyddogion Trafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf i drafod rhai o'r problemau gorlenwi a rhai o'r problemau gyda gwasanaethau. A buom hefyd yn siarad am randdirymu Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, ac o ganlyniad i hynny, gan nad yw'r Senedd yn eistedd ar hyn o bryd, rwyf wedi ysgrifennu at Grant Shapps—y llythyr hwn—i ofyn am randdirymu’r Ddeddf yn gyflym. A allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â hynny, ond hefyd, a gawn ni ateb pendant yn awr ynglŷn â faint yn rhagor o drenau a fydd ar y rheilffordd y flwyddyn nesaf a sut y bydd capasiti yn gwella yn ystod y ddwy flynedd nesaf? Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cofnodi hynny’n bendant ac er eglurder.