Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, yn ôl y rhagolwg economaidd diweddaraf ar gyfer y DU gan PricewaterhouseCoopers, ni fydd economi Cymru ond yn tyfu 1 y cant yn unig eleni ac yn cwympo ychydig yn 2020 gyda chyfradd twf bach o 0.8 y cant yn unig. A ydych yn fodlon â dadansoddiad PwC y bydd economi Cymru yn tyfu ar un o'r cyfraddau arafaf mewn unrhyw ran o'r DU y flwyddyn nesaf? Ac mewn ymateb i'r ymchwil, pa gamau penodol y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â chynhyrchiant isel?