Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:51, 4 Rhagfyr 2019

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rŵan, Weinidog, rydyn ni’n gwybod bod oedi ar drenau a gorlenwi ar drenau yn gallu cael effaith uniongyrchol ar gynhyrchiant o fewn yr economi yng Nghymru. Mae llawer o weithwyr yng Nghymru yn gorfod penderfynu gadael eu cartrefi yn gynharach er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cael ar drên neu gyrraedd gwaith mewn pryd. Mae pobl eraill yn cyrraedd y gwaith yn hwyr. Ydy’r Llywodraeth wedi gwneud asesiad o faint mae oedi a gorlenwi trenau yn ei gostio i’r economi, yn cynnwys oriau sy’n cael eu colli yn y gweithle?