Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:53, 4 Rhagfyr 2019

Mae gorlenwi’n gallu ei gwneud hi’n brofiad amhleserus ar drên hefyd. Roeddwn i’n clywed gan aelod o dîm Plaid Cymru yma yn y Cynulliad, yn digwydd bod, yn gynharach, yn trio teithio ar drên Maesteg i lawr i gêm y Barbariaid dros y penwythnos, a theithwyr yn methu â chael ar drên oherwydd bod trenau’n llawn. Mi oedd fy merch fy hun yn adrodd am siwrnai ar draws llinell y gogledd yn yr wythnosau diwethaf lle'r oedd pobl yn sefyll yn y tŷ bach oherwydd bod y trên yn rhy llawn. Dydy o ddim yn dderbyniol.