Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Hoffwn ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiwn, ac am godi'r mater hwn gyda mi yn uniongyrchol cyn hyn. Llwyddais i siarad eto â Trafnidiaeth Cymru y bore yma, gan bwysleisio'r angen diamod i sicrhau fod cynlluniau wrth gefn ar waith ar frys.
Fel y nododd yr Aelod, yn gwbl gywir, ar brynhawn dydd Mercher, 27 Tachwedd, bu tarfu ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar reilffordd Aberdâr oherwydd problem gyda'r signalau, sydd, wrth gwrs, yn cael eu rheoli gan Network Rail. Gwaethygwyd y broblem gan yr anhawster i ddod o hyd i fysiau i weithredu yn lle'r trenau, gan fod bysiau lleol, ar y pryd, wrthi'n darparu cludiant o'r ysgol. Cafwyd tarfu pellach yn ddiweddarach y noson honno ar ôl i fws daro pont reilffordd, ac yna bu’n rhaid i Network Rail, yn gwbl briodol, gynnal archwiliadau diogelwch i sicrhau ei bod yn ddiogel i drenau ei chroesi. Llwyddodd Trafnidiaeth Cymru i ddod o hyd i fysiau yn lle'r trenau ac ail-agorwyd y rheilffordd am 8 o’r gloch yr hwyr, ond rwy’n cydnabod bod llawer iawn o etholwyr fy nghyd-Aelod wedi eu cythruddo gan y diffyg gwasanaeth amserol ar yr achlysur penodol hwnnw.
Er bod y digwyddiadau hyn y tu hwnt i reolaeth Trafnidiaeth Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhoi sicrwydd i mi eu bod yn mynd ati ar frys i adolygu'r ffordd y caiff bysiau yn lle trenau eu caffael, gan eu bod hwythau hefyd yn teimlo ei bod yn iawn i deithwyr allu disgwyl i wasanaethau gychwyn cyn gynted â phosibl ar ôl digwyddiad. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau cyn bo hir gyda manylion y gwaith brys hwnnw a'i ganlyniadau.