1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 4 Rhagfyr 2019.
5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus o fewn cymoedd y gogledd? OAQ54802
Gwnaf, wrth gwrs. Rydym yn bwrw ymlaen gyda'n gweledigaeth uchelgeisiol i ail-lunio seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau bysiau lleol, gwasanaethau rheilffyrdd, teithio llesol, prosiectau'r metro, ac wrth gwrs, Bil bysiau (Cymru).
Diolch am eich ateb cyffredinol, Weinidog. Nawr, nid hwn oedd y cwestiwn atodol roeddwn wedi bwriadu ei ofyn, ond mae tarfu diweddar ar wasanaethau rheilffyrdd yn fy nghymuned wedi newid fy ffocws heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi cael perthynas dda gyda Trafnidiaeth Cymru ers iddynt ddod yn gyfrifol am y gwasanaethau, ond roedd y digwyddiadau yr wythnos diwethaf yn anhrefn llwyr—trenau wedi'u canslo, teithwyr yn cael eu taflu allan mewn gorsafoedd ar hap, taith rhai pobl i'r gwaith ac adref yn cymryd mwy na phedair awr a hanner yno ac yn ôl, a chael eu gollwng mewn gorsafoedd nad oeddent yn agos at eu cartref, ac effaith hynny ar ofal plant a phob math o bwysau eraill. Nid yw hyn yn dderbyniol o gwbl. Rwy'n derbyn bod rhai problemau, fel nam i gyfarpar gerllaw'r rheilffyrdd, y tu hwnt i reolaeth Trafnidiaeth Cymru, ond mae angen cynllun B. Dylid rhagweld problemau gyda chael mynediad at fysiau yn ystod yr oriau brig pan fydd y bysiau arferol yn cludo plant i ac o'r ysgol, a dylid cael cynllun wrth gefn ar gyfer hynny. Bu llawer o sôn am y newidiadau i'r amserlen ar 15 Rhagfyr, ond i lawer o fy etholwyr, mae siom wedi arwain at ddiffyg ymddiriedaeth. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i unioni hyn? Pa fesurau a roddir ar waith i leihau risg y problemau a welwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf, fel nad yw fy etholwyr yn dioddef gwasanaethau mor wael eto?
Hoffwn ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiwn, ac am godi'r mater hwn gyda mi yn uniongyrchol cyn hyn. Llwyddais i siarad eto â Trafnidiaeth Cymru y bore yma, gan bwysleisio'r angen diamod i sicrhau fod cynlluniau wrth gefn ar waith ar frys.
Fel y nododd yr Aelod, yn gwbl gywir, ar brynhawn dydd Mercher, 27 Tachwedd, bu tarfu ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar reilffordd Aberdâr oherwydd problem gyda'r signalau, sydd, wrth gwrs, yn cael eu rheoli gan Network Rail. Gwaethygwyd y broblem gan yr anhawster i ddod o hyd i fysiau i weithredu yn lle'r trenau, gan fod bysiau lleol, ar y pryd, wrthi'n darparu cludiant o'r ysgol. Cafwyd tarfu pellach yn ddiweddarach y noson honno ar ôl i fws daro pont reilffordd, ac yna bu’n rhaid i Network Rail, yn gwbl briodol, gynnal archwiliadau diogelwch i sicrhau ei bod yn ddiogel i drenau ei chroesi. Llwyddodd Trafnidiaeth Cymru i ddod o hyd i fysiau yn lle'r trenau ac ail-agorwyd y rheilffordd am 8 o’r gloch yr hwyr, ond rwy’n cydnabod bod llawer iawn o etholwyr fy nghyd-Aelod wedi eu cythruddo gan y diffyg gwasanaeth amserol ar yr achlysur penodol hwnnw.
Er bod y digwyddiadau hyn y tu hwnt i reolaeth Trafnidiaeth Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhoi sicrwydd i mi eu bod yn mynd ati ar frys i adolygu'r ffordd y caiff bysiau yn lle trenau eu caffael, gan eu bod hwythau hefyd yn teimlo ei bod yn iawn i deithwyr allu disgwyl i wasanaethau gychwyn cyn gynted â phosibl ar ôl digwyddiad. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau cyn bo hir gyda manylion y gwaith brys hwnnw a'i ganlyniadau.
Mae gan lawer o bobl ddiddordeb yn y potensial i ymestyn gwasanaethau trên i'r gogledd yng nghwm Rhondda, ac mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ar hyn ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n mawr obeithio y gall y Llywodraeth hon a Trafnidiaeth Cymru sicrhau bod hynny'n dwyn ffrwyth. Byddai'r gwahaniaeth y gallai gorsaf newydd yn Nhynewydd ei wneud ar ben uchaf y Rhondda yn enfawr. Byddai'n gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn llawer mwy hygyrch i rai o'r cymunedau mwyaf ynysig yn fy etholaeth. Nid oes rheilffordd yn y Rhondda Fach. Roedd cyswllt bws a thrên yn arfer gweithredu o'r Maerdy dros y bryn i Benrhys i orsaf Ystrad Rhondda.
Beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf o ran ymestyn y rheilffordd i'r Rhondda Fawr i Dynewydd? Ac a allwch ddweud wrthym beth yw'r posibilrwydd o wella cysylltiadau â'r Rhondda Fach o ran y rheilffyrdd? Ac effeithiwyd ar bobl yn y Rhondda hefyd gan y problemau gorlenwi diweddar, ac maent wedi cael llond bol ar wrando ar esgusodion. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei ddarparu y bydd digon o gapasiti i'r bobl yn y Rhondda, p'un a yw'r gwelliannau rwyf wedi eich holi amdanynt y prynhawn yma yn dwyn ffrwyth ai peidio?
Gallaf roi sicrwydd i bobl y Rhondda ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â materion capasiti ar rwydwaith y rheilffyrdd. Mae'n bwysig, serch hynny, nad ydym yn ystyried y gwasanaeth rheilffordd ar wahân i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus eraill. Credaf ei bod yn hollol iawn i bobl ddisgwyl gwasanaeth bysiau a rheilffyrdd integredig, a dyna pam y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i'r Siambr hon y flwyddyn nesaf ar gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol, fel y gallwn ailgyflwyno masnachfreinio, fel ein bod yn caniatáu i gwmnïau bysiau trefol gael eu ffurfio, fel y gallwn integreiddio tocynnau ac amserlennu ac fel bod gennym y math o wasanaeth integredig a oedd yn arfer bodoli. Credaf mai gwasanaeth cyswllt bws a thrên y Rhondda Fach roedd pobl yn y Rhondda yn ei werthfawrogi. Hoffem weld mwy o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus integredig o'r fath yn cael eu cyflwyno ledled Cymru.
O ran estynadwyedd y metro, dyma un o'r enghreifftiau mwyaf cyffrous o waith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd—camau'r metro yn y dyfodol—mae'r fframwaith yn cael ei gwblhau gan Lywodraeth Cymru. Rydym eisoes yn darparu pum gorsaf newydd o dan gytundeb y fasnachfraint gyda'r gweithredwr a'r partner datblygu. Ac yn y dyfodol, fel rhan o weledigaeth metro de Cymru, byddwn yn gweld mwy o orsafoedd yn cael eu hagor, mwy o hen reilffyrdd yn cael eu hailagor, a rheilffyrdd newydd yn cael eu cyflwyno.
A gaf fi ddweud wrth y Gweinidog fod pobl ym mhob gorsaf o Faesteg i Gaerdydd yn edrych ymlaen yn fawr at weld y cerbydau 170 wedi'u hadnewyddu yn cael eu cyflwyno, a'r gwasanaeth ar ddydd Sul o ganol y mis hwn ymlaen? Bydd yn hwb gwirioneddol i'r rheilffordd honno ac i amlder gwasanaethau, yn enwedig ar ddydd Sul. A diolch iddo am yr ateb ysgrifenedig a gefais ganddo heddiw ar fy ymgyrch nesaf, sef trenau hwyrach o Gaerdydd i bob gorsaf ar hyd y rheilffyrdd i Faesteg.
Ond a gaf fi ddweud, mae tri o fy nghymoedd—ac rwy'n dweud hyn dro ar ôl tro—cymoedd Garw, Ogwr a'r Gilfach, yn cael eu gwasanaethu'n llwyr gan drafnidiaeth bws. Nawr, er enghraifft, yng nghwm Garw Uchaf, heb—. Mae bron i 30 y cant o bobl yng nghwm Garw Uchaf heb fynediad at drafnidiaeth breifat, a 15 y cant yn fwy na'r cyfartaledd cenedlaethol wedi'u categoreiddio'n weithwyr lled-fedrus, gweithwyr llaw heb sgiliau neu mewn swyddi ar raddfeydd is, neu'n ddi-waith, ac yn ceisio dod o hyd i waith. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dosbarthu'r gymuned yn gymuned wledig 100 y cant ac rydym yn dibynnu'n llwyr ar fysiau. Mae 50 y cant o'r boblogaeth yno'n teithio rhwng 10km a 30km i'r gwaith, ac maent yn dibynnu ar fysiau. Felly, a gaf fi ofyn iddo: wrth inni fwrw ymlaen â'r diwygiadau hyn, yn enwedig o ran dadwneud y weithred drychinebus o ddadreoleiddio'r bysiau ddegawdau yn ôl, pa obaith y gallaf ei roi i'r etholwyr hynny y gallwn gael gwasanaeth bysiau sydd wedi'i gynllunio'n lleol ac yn rhanbarthol, sy'n mynd i'r lleoedd y mae pobl am fynd iddynt, ar yr adeg y maent am fynd yno, gyda phrisiau tocynnau fforddiadwy y gallant fforddio talu amdanynt, gwasanaeth sydd ar gyfer y bobl ac nid er budd cyfranddalwyr?
Wel, mae'r Aelod yn llygad ei le: byddwn yn dylunio, drwy ddeddfwriaeth a diwygiadau pellach, system drafnidiaeth ar gyfer bysiau ac ar gyfer mathau eraill o drafnidiaeth sy'n blaenoriaethu buddiannau teithwyr dros gymhelliant elw. A boed hynny trwy greu cwmnïau bysiau trefol, trwy ailgyflwyno masnachfreinio, trwy ddiwygiadau eraill, byddwn yn darparu gwell trafnidiaeth bysiau sydd wedi'i hintegreiddio â rheilffyrdd.
Nawr, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig ynghylch amserlennu gwasanaethau i sicrhau bod pobl sy'n gweithio y tu allan i oriau yn gallu mynd a dod o'u gwaith. Enghraifft dda o sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymyrryd yn y maes hwn yn awr yw cynllun peilot trafnidiaeth O’r Cymoedd i’r Gwaith, a ddatblygwyd gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, ac rydym wedi gallu cyhoeddi cynllun peilot bws mini y tu allan i oriau i fynd â phobl i'w gwaith. Credaf fod honno'n enghraifft wych o sut y gallwn ddarparu cyfleoedd i bobl fynd a dod o'r gwaith ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod oriau anghyfleus drwy weithio mewn ffordd is-ranbarthol gyda'r holl bartneriaid.
Tynnwyd cwestiwn 6 [OAQ54787] yn ôl. Cwestiwn 7, Nick Ramsay.