Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Mehefin eleni fod cwmni modurol TVR wedi dewis cwmni yng ngorllewin Cymru i ddodrefnu eu huned ffatri ar safle technoleg fodurol Glyn Ebwy, a oedd yn gyhoeddiad calonogol iawn ynddo'i hun—eu bod wedi dewis cwmni o Gymru i wneud hynny—a all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar adnewyddu'r uned honno? Ac a all roi unrhyw syniad i ni pryd y bydd TVR yn dechrau cynhyrchu ceir?