Addysg ar ôl Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:20, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y Cynulliad wedi cael rheoliadau sydd, i bob pwrpas, mewn senario 'dim cytundeb', er enghraifft, yn darparu, ar sail unochrog, cydnabyddiaeth o gymwysterau presennol ar gyfer gwladolion yr UE sy'n gweithio ym mhob math o broffesiwn a reoleiddir yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys y proffesiwn addysgu. Mae'r set honno o reoliadau'n darparu trefniadau ar gyfer gweithwyr presennol, ac maent hefyd yn ceisio dilysu neu gydnabod cymwysterau'r rheini y mae eu ceisiadau yn y system ar hyn o bryd, ac yn wir, y rheini a ddaw i mewn i'r system ar ôl i ni adael. Ond ceir risg barhaus i ddinasyddion y DU sy'n gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd o dan yr amgylchiadau hynny, pe baem yn gadael heb gytundeb—nid ydym yn gwybod, wrth gwrs, ar ba sail, os o gwbl, y byddwn yn gadael ar hyn o bryd—ni fydd y cysylltiadau hynny yn elwa o'r trefniadau dwyochrog sy'n bodoli ar draws yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd. Ac felly bydd y gweithwyr sy'n gweithio mewn gwahanol rannau o'r Undeb Ewropeaidd yn dibynnu ar y drefn reoleiddiol ym mhob aelod-wladwriaeth unigol i sicrhau bod eu cymwysterau penodol yn cael eu cydnabod yn y dyfodol.