Addysg ar ôl Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:19, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o glywed hynny, Weinidog. Ym mis Mawrth, fe ddywedoch chi wrthyf, ac rwy’n dyfynnu, fod angen gwneud gwaith pwysig mewn perthynas â'r cymwysterau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu derbyn gan athrawon a ddaw yma i weithio o wledydd yr UE, y gwledydd y gwnaethant gymhwyso ynddynt. Pan alwais am ddiweddariad am y gwaith hwn gan y Trefnydd ym mis Mehefin, yn anffodus, ni lwyddodd fy helpu, ond ers hynny, o fis Medi eleni, bydd angen i Gyngor y Gweithlu Addysg gymeradwyo cymwysterau pob athro newydd. Mae naw mis wedi bod bellach ers i chi ddweud y byddai'r gwaith pwysig hwn yn angenrheidiol. Sut rydych chi a'r Gweinidog addysg wedi gweithio gyda'ch gilydd i sicrhau y gall gwladolion yr UE barhau neu hyd yn oed ddechrau dysgu yma o'r diwrnod rydym yn gadael? Diolch.