Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Ni allwch ymwrthod â'r demtasiwn, oni allwch? Fel y gwyddoch, mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 y DU, a gafodd gydsyniad deddfwriaethol gan y Siambr hon, yn datblygu fframweithiau i sicrhau, ni waeth beth sy’n digwydd ar ôl Brexit, fod marchnad sengl i'w chael yn y DU fel nad oes gennym rwystrau mewnol rhwng gwledydd y DU. Yn amlwg, mae trafodaethau fframwaith wedi eu gohirio ar hyn o bryd hyd nes y cawn ganlyniad yr etholiad cyffredinol a bydd gennym Lywodraeth newydd mewn grym yn y DU, ond os ydym yn cyrraedd y sefyllfa honno, pa argymhellion sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer corff i oruchwylio, ac os oes angen, i orfodi, pan fo'r fframwaith ar gyfer yr amgylchedd, diogelwch anifeiliaid, safonau bwyd ac ati yn cael ei dorri?