Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Gwn y bydd yr Aelod yn gyfarwydd â gwaith yr Institute for Government a'u hadolygiad trylwyr o'r trefniadau a wnaed gan nifer o gyfansoddiadau, nifer o wladwriaethau, hyd yn oed y rheini sy'n meddu ar gyfansoddiadau ysgrifenedig ffederal, o ran y modd y maent yn ymdrin â chwestiynau ynghylch effaith cytundebau rhyngwladol ar yr hyn y byddem yn ei ddisgrifio yma fel cymhwysedd datganoledig. Rwy'n gwbl glir ei bod hi'n llygad ei lle'n dweud bod gennyf bryderon sylweddol ynglŷn â'r hyn y gwyddom ei fod wedi codi o'r ddogfen a wnaed yn gyhoeddus yn ddiweddar a'r mandad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth yr UDA mewn perthynas â'u dyheadau ynghylch cytundeb masnach gyda'r DU. Mae'n gwbl amlwg o hynny mai eu bwriad yw ceisio cael mynediad at y GIG, a'i fasnacheiddio, ei farchnadeiddio a'i ddefnyddio i godi costau meddyginiaethau er budd eu cwmnïau fferyllol eu hunain. Felly, rhannaf ei phryderon difrifol ynghylch yr hyn yr ymddengys ei fod dan ystyriaeth.
Ond y math o drefniant y mae hi a chynnig Plaid Cymru o'i blaid yw feto, yn y bôn, ar gytundebau rhyngwladol, a'n barn ni—a chredaf ei bod wedi'i mynegi yn glir iawn, yn fwyaf diweddar yn y ddogfen a gyhoeddodd y Prif Weinidog am ddiwygio'r cyfansoddiad yn gyffredinol—yn gyson â phob cyfansoddiad ffederal arall, rwy'n credu, nid fy mod yn honni bod ein cyfansoddiad ni'n ffederal, ar wahân i gyfansoddiad Gwlad Belg, yw mai'r mecanwaith priodol ar gyfer ymdrin â hynny yw sefydlu mecanwaith i wladwriaethau nad ydynt yn cyfateb i'r wladwriaeth ffederal yn y cyfansoddiadau hyn i ddylanwadu'n wirioneddol ar fandad a negodiadau'r cytundebau hynny. A chredaf fod honno'n ffordd well inni fwrw ymlaen mewn perthynas â'r cwestiwn hwn.