Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Diolch am eich eglurhad, Weinidog. Nid wyf yn synnu eich bod yn rhannu ein pryder ynglŷn â'r sefyllfa, a buaswn yn eich annog, os gwelwch yn dda, i ailystyried cefnogi ein hateb i hyn hefyd yn y ddadl y prynhawn yma. Ond rydych wedi sôn eisoes fod rhan arall o’r cynigion a gyflwynwyd gennym yn ein cynnig yn ymwneud â chael feto ar gytundebau masnach, ac rydych hefyd wedi cyfeirio at y ffaith bod cynsail i hyn yn Walonia yng Ngwlad Belg. Rhanbarth o Wlad Belg yw hwnnw. Weinidog, os caf ofyn i chi: os oes gan ranbarth Walonia yng Ngwlad Belg hawl i amddiffyn ei ddinasyddion drwy gael feto ar gytundebau masnach, ac unwaith yn unig y maent wedi'i defnyddio; nid yw'n rhyw fath o fesur rhwydd y maent yn ei ddefnyddio drwy'r amser, ond os oes gan un o ranbarthau Gwlad Belg yr hawl honno, pam, Weinidog, nad ydych yn credu y dylai cenedl Cymru gael yr un peth?