Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Wel, fe ddywedaf wrthych beth y mae'r Blaid Geidwadol wedi rhoi manylion yn ei gylch: byddwn yn gwarantu na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid; byddwn yn darparu cyllid cyfatebol ar gyfer amaethyddiaeth drwy gydol Senedd nesaf y DU; ac yn bwysicaf oll, byddwn yn cyflawni'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ac y maent yn parhau i'w gefnogi.
Mae eich maniffesto ar gyfer y DU yn dweud wrthym sut nad ydych am i gyllid gael ei ddyrannu, ond nid yw'n rhoi unrhyw syniad inni sut y byddech yn dyrannu cyllid—Llafur yn cymylu'r dyfroedd yn y gobaith na fydd pobl Cymru yn sylwi eich bod yn bradychu Brexit am nad ydych eisiau ei gyflawni. Felly, os na fyddai ots gennych ddarparu manylion, o'ch safbwynt chi, pa gynigion sydd gennych chi a'ch plaid yn lle'r ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu ar ôl i'r DU adael yr UE?