Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:37, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, fe'i cyfeiriaf at gynnwys y ddogfen a gyhoeddwyd gennym ar ddiwedd 2017, sy'n disgrifio ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol cyllid rhanbarthol yng Nghymru a gwaith y grŵp llywio a gadeirir gan Huw Irranca-Davies, sef pwnc ein trafodaeth flaenorol ac sydd wedi arwain at gynigion interim diddorol iawn yn fy marn i. Rydym wedi dweud yn glir iawn beth yw'r blaenoriaethau yr hoffem eu gweld fel Llywodraeth yn sgil buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol—sef cefnogi cymunedau cynaliadwy, busnesau cynhyrchiol, economi ddi-garbon, a hyrwyddo cydraddoldeb ledled Cymru, a gwneud hynny ar sail lle mae'r cenedlaethol, y rhanbarthol a'r lleol yn gweithio gyda'i gilydd yn y ffordd fwyaf effeithiol i gyflawni hyn ar lawr gwlad.

Hoffwn ddweud fy mod yn clywed enghreifftiau dro ar ôl tro gan Lywodraeth y DU o sut y mae polisi rhanbarthol wedi gweithio’n effeithiol yn Lloegr. Mae arnaf ofn os mai dyna’r model sydd gan Lywodraeth y DU mewn golwg ledled y DU, gan y daethpwyd i'r casgliad dro ar ôl tro—yn enwedig gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Senedd—fod y ffordd y mae’r cwmnïau menter lleol, er enghraifft, ledled Lloegr wedi ymdrin â'r cwestiwn ynghylch buddsoddiad rhanbarthol yn druenus o annigonol. Ac rwy'n ofni mai dyna sydd gan y Ceidwadwyr mewn golwg ar gyfer Cymru.