Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Ydw. Credaf fod yr Aelod yn taro'r hoelen ar ei phen—mae'r cyfle i roi'r cwestiwn yn ôl gerbron y cyhoedd yn caniatáu i bobl werthuso'r dystiolaeth sydd gennym bellach. Ac nid ydym yn siarad mwyach am ganlyniadau damcaniaethol ceisio gadael yr Undeb Ewropeaidd; rydym eisoes yn sôn am y canlyniadau go iawn, ac nid ydym wedi gadael eto. Felly, gwyddom fod yr economi 2.5 y cant yn llai nag y byddai fel arall. Cawsom ddadansoddiad yn ddiweddar sy'n cefnogi hynny. Gwyddom fod buddsoddiad mewn busnesau oddeutu 26 y cant o dan duedd, ac nid ffigurau ar bapur yn unig yw hynny, ond swyddi, bywoliaeth pobl ac arian yn eu pocedi.
Ac mae'n llygad ei le i ddweud, hyd yn oed yn ôl dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun, fod hyd yn oed y fersiwn orau o'u cytundeb yn cael effaith andwyol iawn ar yr economi. Mae'n syndod i mi y gallai Llywodraeth y DU ddadlau o blaid llwybr gweithredu sydd, yn ôl eu ffigurau eu hunain, yn niweidio economi'r DU.