Effaith Cynnal Refferendwm Arall ar Brexit ar Economi Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:46, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Credaf fod y ffaith bod Michelle Brown yn gofyn, 'Sut y gwyddoch pa fath o Brexit rwyf ei eisiau?' yn dangos yn eithaf clir fod ansicrwydd hyd yn oed ymhlith meinciau'r rhai sydd yma oherwydd Brexit. Nid ydynt yn gwybod beth y maent ei eisiau.

Ond y gwir amdani—rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Weinidog—yw fod refferendwm o leiaf yn caniatáu i bobl Cymru edrych ar y dystiolaeth sydd gennym bellach, nad oedd gennym yn 2016, er mwyn llunio barn ynglŷn â'r hyn sydd orau i ni. Ac wrth gwrs, mae yna wahanol asesiadau o'r hyn y gallai Brexit ei wneud i'r economi, ac a fyddech chi fel Gweinidog yn cytuno mai'r hyn sydd gennym yn y gwahanol asesiadau hynny yw y gallai fod yn ddrwg, yn ddrwg iawn, neu'n ofnadwy o ddrwg?