Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Wel, nid oes y fath beth â Brexit 'dim cytundeb' da wrth gwrs. Byddai'n drychinebus i Gymru. Gwyddom y byddai'n gwneud niwed enfawr i'r diwydiannau sy'n dibynnu ar gytundebau masnach gyda'r UE, ei bod hi'n debyg fod ein GIG gwerthfawr ar werth, ac y bydd effaith negyddol ar ein diogelwch a'r amgylchedd a hawliau gweithwyr. Ac eto, ni fydd Llywodraeth y Torïaid yn ei ddiystyru; maent yn gadael 'dim cytundeb' ar y bwrdd.
Ar y llaw arall, Llywodraeth Lafur y DU yw'r unig blaid sy'n cynnig ffordd ddemocrataidd i bobl Cymru a'r DU gyfan allan o'r llanastr hwn drwy gael gwared ar fygythiad Brexit 'dim cytundeb', negodi cytundeb gwell a'i roi gerbron y bobl mewn dewis naill ai i dderbyn y cytundeb hwnnw neu i aros yn yr UE. A byddai Llafur Cymru'n ymgyrchu i aros pe bai'r refferendwm hwnnw'n cael ei gynnal. Felly, a ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid i bobl Cymru gael y gair olaf ar Brexit?