Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Rwy'n cytuno â hynny, ac rwy'n cytuno â'r Aelod y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn tynnu Brexit 'dim cytundeb' oddi ar y bwrdd, gan fy mod yn cytuno â hi nad oes y fath beth â Brexit 'dim cytundeb' da. Ond credaf ei bod hithau a minnau hefyd yn cytuno nad oes y fath beth â Brexit da, ac felly, yn y sefyllfa honno, pe baem yn cael cyfle i gael refferendwm, gwn y byddai hithau a minnau yn ymgyrchu gyda'n gilydd, fel y byddai'r holl Aelodau ar y meinciau hyn, i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.