Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Diolch. Yr wythnos hon, siaradais â theulu—mae un ohonynt o Gymru, a'r llall o Wlad Pwyl—ac mae'r ddau ohonynt yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol ac yn gofalu am ddau blentyn bach. Maent yn poeni y gallent gael eu gwahanu pe bai Brexit yn digwydd, gan gofio, yn amlwg, yr hyn a ddigwyddodd gyda thrigolion Windrush. Rwy'n deall pam eu bod mor bryderus ynglŷn â hyn, ac nid hwy yw'r unig etholwyr sydd â phryderon o'r fath.
Rwy'n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru rywfaint o wybodaeth dda ar-lein ynglŷn â sut y dylai pobl geisio am statws preswylwyr sefydlog, gan gynnwys fideo sy'n arwain pobl drwy'r broses, sy'n amlwg yn ddefnyddiol iawn. Ond sut rydym yn sicrhau bod holl ddinasyddion yr UE yn gallu, ac yn sicrhau eu bod yn ymwybodol sut i wneud cais am statws preswylwyr sefydlog ac yn cael eu cynorthwyo i sicrhau eu bod yn ei gael? Oherwydd mae gennyf etholwyr eraill nad yw eu lefelau llythrennedd yn dda iawn. Nid ydynt o reidrwydd yn gweithio, ond efallai eu bod wedi byw yma ers amser maith, ac mae eu hanfon yn ôl i ryw wlad y gallent fod wedi eu geni ynddi yn swnio'n anhygoel o anaddas. Felly, tybed pa sgyrsiau, neu pa sicrwydd a gawsoch gan y Llywodraeth Geidwadol ymadawol hon na fyddwn yn gweld yr un peth yn digwydd i ddinasyddion Ewropeaidd â'r hyn a ddigwyddodd i ddioddefwyr Windrush, a gafodd eu hel o'r wlad hon a'u hanfon dramor, byth i weld eu plant neu eu hwyrion eto am eu bod yn rhy dlawd i ddychwelyd?