2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 4 Rhagfyr 2019.
5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch statws gwladolion tramor yr UE sy'n byw yng Nghanol Caerdydd, pe bai'r DU yn gadael yr UE yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf? OAQ54795
Rydym yn cyfathrebu'n rheolaidd ar lefel weinidogol a swyddogol gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chynllun statws preswylydd sefydlog i ddinasyddion yr UE a statws gwladolion yr UE sy'n preswylio yma. Er nad y cynllun yw'r math o drefniant y byddem yn dymuno'i weld ar waith yn ddelfrydol, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod dinasyddion yr UE yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill yn ceisio am statws preswylwyr sefydlog.
Diolch. Yr wythnos hon, siaradais â theulu—mae un ohonynt o Gymru, a'r llall o Wlad Pwyl—ac mae'r ddau ohonynt yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol ac yn gofalu am ddau blentyn bach. Maent yn poeni y gallent gael eu gwahanu pe bai Brexit yn digwydd, gan gofio, yn amlwg, yr hyn a ddigwyddodd gyda thrigolion Windrush. Rwy'n deall pam eu bod mor bryderus ynglŷn â hyn, ac nid hwy yw'r unig etholwyr sydd â phryderon o'r fath.
Rwy'n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru rywfaint o wybodaeth dda ar-lein ynglŷn â sut y dylai pobl geisio am statws preswylwyr sefydlog, gan gynnwys fideo sy'n arwain pobl drwy'r broses, sy'n amlwg yn ddefnyddiol iawn. Ond sut rydym yn sicrhau bod holl ddinasyddion yr UE yn gallu, ac yn sicrhau eu bod yn ymwybodol sut i wneud cais am statws preswylwyr sefydlog ac yn cael eu cynorthwyo i sicrhau eu bod yn ei gael? Oherwydd mae gennyf etholwyr eraill nad yw eu lefelau llythrennedd yn dda iawn. Nid ydynt o reidrwydd yn gweithio, ond efallai eu bod wedi byw yma ers amser maith, ac mae eu hanfon yn ôl i ryw wlad y gallent fod wedi eu geni ynddi yn swnio'n anhygoel o anaddas. Felly, tybed pa sgyrsiau, neu pa sicrwydd a gawsoch gan y Llywodraeth Geidwadol ymadawol hon na fyddwn yn gweld yr un peth yn digwydd i ddinasyddion Ewropeaidd â'r hyn a ddigwyddodd i ddioddefwyr Windrush, a gafodd eu hel o'r wlad hon a'u hanfon dramor, byth i weld eu plant neu eu hwyrion eto am eu bod yn rhy dlawd i ddychwelyd?
Wel, diolch i’r Aelod am dynnu ein sylw at y sefyllfa benodol honno, a chredaf ei bod yn disgrifio amgylchiadau sydd—. Rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom wedi cael etholwyr yn dod atom gyda'r lefel hon o bryder ynglŷn â'u gwahanol amgylchiadau personol. Er bod hwn yn fater a gedwir yn ôl, ac yn fater i'r Swyddfa Gartref ei hyrwyddo, fe fydd hi'n gwybod ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi bod yn darparu adnoddau Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio sicrhau bod pobl yn deall, ac yn cael eu cynorthwyo i wneud cais am y cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE.
Mae hi'n sôn am y fideo rwyf wedi'i ail-drydar drwy ffrwd Twitter y Llywodraeth heddiw, sy'n esbonio'n syml iawn i bobl sut y gallant wneud cais ar-lein. Buaswn hefyd yn ei chyfeirio hi ac Aelodau eraill at wefan eusswales.com, sy'n dwyn ynghyd yr holl adnoddau a ffynonellau cymorth a chyngor y gall dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru eu ceisio er mwyn eu cynorthwyo i ymgeisio am statws preswylwyr sefydlog.
Ond credaf fod ei chwestiwn yn awgrymu pryder sy'n dweud, 'Wel, nid yw pawb yn byw eu bywyd ar-lein, efallai, ac ni fydd pawb wedi nodi'r angen i roi'r camau hyn ar waith.' A chredaf fod hwnnw'n bryder go iawn. Er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r garfan honno o bobl, a allai fod yn eithaf sylweddol, rydym wedi ceisio dosbarthu posteri a thaflenni drwy ystod o sianeli. Mae peth o'r gwaith y mae'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, a Settled, a elwid gynt yn the3million, wedi bod yn ei wneud fel rhan o grŵp cydgysylltu EUSS Cymru wedi ceisio nodi rhwydweithiau anffurfiol gwahanol gymunedau o ddinasyddion yr UE. Felly, golyga hynny edrych ar ble y gellir darparu gwybodaeth mewn siopau bwyd, mewn caffis, mewn eglwysi a grwpiau cymdeithasol eraill, er mwyn ceisio defnyddio'r fforymau hynny i godi ymwybyddiaeth.
Credaf i chi sôn bod un o'ch etholwyr yn gweithio yn y GIG, a chafwyd ymdrech i godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithlu'r GIG—yn amlwg, mae nifer sylweddol o'r rheini'n ddinasyddion yr UE—fel eu bod yn deall pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt gan Lywodraeth Cymru.