Effaith Cynnal Refferendwm Arall ar Brexit ar Economi Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown Independent 2:44, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'n drueni i Gymru eich bod chi a'ch Llywodraeth a'ch brodyr dros y ffin am barhau â'r ansicrwydd sy'n amharu ar fusnesau Cymru gan na chawsoch chi a'ch cynghreiriaid yn y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru sydd o blaid aros eich ffordd yn 2016. Mae Llafur wedi dweud y byddech yn ymgyrchu i aros pe cynhelid refferendwm arall. Rydych am i'r dewis fod rhwng Brexit mewn enw yn unig ac aros—refferendwm wedi'i rigio ar gyfer aros yw hynny a dim arall.

Ni weithiodd yr holl godi bwganod ar yr etholwyr, felly rydych wedi cael eich gorfodi yn awr i fod yn ddi-flewyn-ar-dafod ynglŷn â'ch diffyg parch tuag at ewyllys democrataidd pobl Prydain a phobl Cymru. Felly, gan mai eich nod yw nid yn unig gohirio Brexit ond gwrthdroi Brexit, a ydych yn credu y bydd pleidleiswyr yn deall bod pleidleisio dros Lafur yn union yr un fath â phleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru?