Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Mae'n syndod i mi fod gan yr Aelod, sy'n cynrychioli rhan o Gymru sydd wedi elwa cymaint o aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd ac sy'n parhau i ddibynnu ar gyfleoedd cyflogaeth a gefnogir gan aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, agwedd mor ffwrdd-â-hi mewn perthynas â'r cwestiwn economaidd sylfaenol hwn. Ac mae'n ein gwahodd i edrych ar fyd lle mai achos yr ansicrwydd yw ein polisi yma, pan wyddom yn iawn y byddai'r math o Brexit caled neu Brexit 'dim cytundeb' y mae'n dadlau o'i blaid yn golygu y byddem yn cael sgyrsiau am Brexit yn y Siambr hon am y degawd nesaf a thu hwnt.
Mae'r syniad bod y math o Brexit y mae hi am ei weld yn dod â'r ansicrwydd i ben yn hytrach nag arwain at ddegawdau o ansicrwydd parhaus yn gwbl ffug. Yr unig ffordd o dynnu llinell o dan hyn yw rhoi'r mater hwn yn ôl gerbron y cyhoedd ac ymgyrchu a llwyddo gyda'r ymgyrch dros aros.