Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Rwy'n gwybod bod llawer o'r cwestiynau wedi cael eu gofyn ond rwy'n gwybod, o'm safbwynt i, nad wyf yn gwerthfawrogi'r diferion o wybodaeth sy'n dod i'r amlwg fel hyn, yn enwedig yn y cyfnod hwn sy'n arwain at y Nadolig. Nid yw'n weithredu blaengar ar ran y cwmni ac mae hefyd yn erydu hyder y gweithlu. Fel y dywedais y tro diwethaf, mae'r cyfan wedi bod yn eithaf cyfrinachol. Nid yw llawer o'r bobl sy'n siarad â mi yn cael unrhyw wybodaeth glir am yr hyn sy'n digwydd. Anfonais e-bost at Tata pan anfonwyd y datganiad i'r wasg atom, yn gofyn am ddadansoddiad ar gyfer Cymru. Os ydynt wedi creu dadansoddiad ar gyfer y DU, sydd wedi deillio o'r dadansoddiad o'r swyddi a gollwyd yn Ewrop, does bosibl na allant gynnig rhyw fath o ffigur ar gyfer Cymru fel y gallwn roi pennau at ei gilydd a cheisio deall sut y bydd hyn yn effeithio ar Gymru. Felly, er eu bod wedi rhoi llawer o adnoddau i'r ardal leol—ac nid oes amheuaeth eu bod wedi gwneud hynny—rwy'n credu y bydd ymddiriedaeth yn y cwmni yn erydu os byddant yn parhau i weithredu fel hyn.
Roeddwn eisiau dweud, ers y tro diwethaf, rwy'n credu eich bod wedi camddehongli fy nghwestiwn ychydig bach ynglŷn â'r buddsoddiad. Nid oeddwn yn dweud na ddylem fuddsoddi ond rwy'n dweud, fel yr ategwyd gan yr hyn a ddywedodd Suzy Davies, os ydym yn buddsoddi, mae angen i ni fod 100 y cant yn sicr y bydd y cynlluniau'n mynd rhagddynt, fel rydych wedi'i ddweud, Weinidog, ar gyfer cadw'r gweithfeydd yma yng Nghymru yn y dyfodol. Felly, fy nghwestiwn yw: pa mor hyderus ydych chi y gallwn gael y cytundebau hynny er mwyn sicrhau bod y cytundebau a wnaethom rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, o ran yr orsaf bŵer a'r buddsoddiad sydd ei angen arnom, yn gallu mynd rhagddynt yn yr amgylchedd hynod fregus hwn? Rydym yn y tywyllwch, ond mae'r bobl sy'n gweithio yno yn y tywyllwch hefyd, ac nid ydym mewn sefyllfa dda i allu craffu'n effeithiol mewn trybini o'r fath.
Credaf fod y rhan fwyaf o'r cwestiynau wedi cael eu gofyn yn barod, ond rwy'n eich annog, gyda phwy bynnag sy'n bodoli yn Llywodraeth y DU, boed yn swyddogion neu'r Prif Weinidog, i edrych ar sut y gallwn ailafael yn y gwaith o gynllunio'r gweithlu dur ar lefel y DU, fel y gallwn weithio gyda'n gilydd ar hyn a gwneud yn siŵr fod dyfodol y diwydiant dur yn fyw ac yn iach yng Nghymru, yn hytrach na'i fod yn cael ei erydu dro ar ôl tro.