Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
A gaf fi ddiolch i Dai Rees am y cwestiwn amserol hwn? Mae llawer o'r hyn y mae wedi'i ddweud heddiw wedi cael ei ategu gan y Cyngor Gwaith Ewropeaidd a'r undebau llafur sy'n datgan yn glir iawn eu bod yn dymuno cael ymgynghoriad ystyrlon â Tata dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac er mwyn cael yr ymgynghoriad ystyrlon hwnnw, mae angen iddynt gael cymaint o fanylion â phosibl cyn gynted â phosibl.
Ddirprwy Lywydd, ar ôl y cyhoeddiad, roeddwn yn clywed rhai sylwadau fel, 'Wel, un peth da yn hyn i gyd yw'r ffaith y bydd dwy ran o dair o'r swyddi'n swyddi coler wen, byddant yn swyddi mewn swyddfeydd.' Edrychwch, swyddi yw'r rhain, pobl yw'r rhain. Ni waeth a ydynt yn gweithio ar lawr y ffatri neu mewn swyddfa, mae'r bobl hyn yn wynebu colli eu bywoliaeth. Ac ni waeth a ydynt yn swyddi coler wen neu'n swyddi coler las, rydym yn cydymdeimlo â'r sefyllfa y maent ynddi, a byddwn yn eu cefnogi ym mha ffordd bynnag y gallwn.
Bydd yn gyfnod eithriadol o anodd i lawer o bobl a fydd yn cwestiynu a fydd ganddynt swydd yn Tata ym mis Mawrth 2021. Nid yw'r cyhoeddiad diweddaraf yn ychwanegu llawer mwy at y cyhoeddiad a wnaed ar 18 Tachwedd. Yn y bôn, mae'n cadarnhau'r dyfalu a oedd yn digwydd yn ôl yng nghanol mis Tachwedd, pan gyhoeddodd y cwmni y byddai hyd at 3,000 o swyddi'n cael eu colli ar draws Ewrop. Ac ar y pwynt hwnnw, roedd llawer o ddyfalu y gallai tua 1,600 ohonynt fod yn yr Iseldiroedd a 350 arall mewn mannau eraill. Felly, roedd pobl yn tybio wedyn y byddai oddeutu 1,000 ohonynt yma yn y DU. Mae'r cyhoeddiad, yn ei hanfod, yn cadarnhau hynny, ond nid yw'n ychwanegu mwy o fanylion am y swyddi na lleoliad y swyddi a allai gael eu heffeithio. Dywedwyd wrthym eto y bydd y gwaith a fydd yn digwydd rhwng nawr a'r flwyddyn newydd yn cael ei wneud ar sail rolau unigol fel y byddwn yn gwybod, erbyn mis Chwefror y flwyddyn nesaf, pa swyddi y disgwylir iddynt gael eu colli yn ogystal â lleoliad y swyddi hynny.
Rydym yn cadw'r opsiwn o greu tasglu i gynorthwyo yn agored. Os oes crynhoad o swyddi'n cael eu colli ar unrhyw safle, byddai tasglu yn sicr yn ffordd synhwyrol o gefnogi'r gweithwyr hynny yr effeithir arnynt, ac felly rydym am gadw'r opsiwn hwnnw'n agored.
O ran goblygiadau i'r gadwyn gyflenwi, rydym yn gweithio drwy hyn yn awr. Rwyf eisoes wedi hysbysu Aelodau y bydd uwchgynhadledd weithgynhyrchu arbennig yn cael ei chynnal yn y flwyddyn newydd. Bydd y gadwyn gyflenwi ar gyfer y diwydiant dur, wrth gwrs, yn bryder allweddol yn yr uwchgynhadledd honno. Erbyn yr uwchgynhadledd, rydym yn gobeithio y byddwn wedi gallu cynnal dadansoddiad trwyadl o oblygiadau'r cyhoeddiad hwn i'r lleoliadau hynny yn ac o amgylch safleoedd presennol Tata yng Nghymru. Rwyf wedi cael gair byr â Tata ynglŷn â'r meysydd eraill lle maent yn ceisio arbed costau, gan gynnwys datblygu gwell cymysgedd o gynnyrch a'r gostyngiad mewn costau caffael a chostau nwyddau a gwasanaethau drwy drefniadau caffael mwy effeithiol ac effeithlon.
Hoffwn ddweud mai mis Mawrth 2021 yw'r dyddiad terfynol ar gyfer cwblhau gweithrediad y rhaglen drawsnewid ar gyfer gweithwyr. Fy awydd yn 2020 fydd sicrhau bod cyfnod pontio di-dor i unrhyw un a allai fod yn ddi-waith erbyn 2021 i waith arall o ansawdd uchel sy'n talu'n dda yn y rhanbarth.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn longyfarch Dai Rees ar gynrychioli'r sector dur, ac yn enwedig y gweithwyr ym Mhort Talbot, gyda'r fath egni dros flynyddoedd lawer. Rydym wedi cael nifer o sgyrsiau, rydym wedi sefyll ysgwydd wrth ysgwydd ar sawl achlysur i fynnu gwell bargen i'r sector dur yng Nghymru, ac mae'n briodol ein bod unwaith eto yn awr yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud hynny ac i gytuno ar fargen i'r sector dur a allai fod yn drawsnewidiol i'r sector, ac i sicrhau, unwaith ac am byth, ei bod yn datrys problem y prisiau ynni anghystadleuol.