Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Diolch ichi am dderbyn ymyriad. Yn ddiweddar, cysylltodd rhywun sy'n gweithio yn y proffesiwn meddygol yng ngogledd Cymru â mi, ac maent yn datgan yn awr fod y bwrdd iechyd dan ein Gweinidog iechyd eisoes, mewn perthynas â thriniaethau i osod pengliniau a chluniau newydd, yn ymdrin ag America o ran y ddarpariaeth o bengliniau a chluniau, ac mae'r patent ar eu cyfer yn America. Felly, pam nad ydym yn eu prynu'n fewnol yn awr yn ein gwlad? Pam ein bod eisoes yn ymdrin ag America—