8. Dadl Plaid Cymru: Brexit a Chytundeb au Masnach yn y Dyfodol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 5:34, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n sicr yn wir fod problemau wedi bod, ond nid oes unrhyw beth yn debyg i raddfa'r argyfwng a wynebwn ar hyn o bryd. Nawr, nid oes neb yn dweud bod ein system bresennol ar gyfer rheoleiddio meddyginiaethau yn berffaith. Mae rhai ohonom ar ein traed yn rheolaidd yn y Siambr hon yn gofyn i'r Gweinidog iechyd sicrhau bod meddyginiaethau ar gael nad ydynt wedi mynd drwy broses NICE, ond y realiti yw fod proses NICE yno i ddiogelu pobl, ac os cawn y cytundeb y mae Donald Trump ei eisiau—ac mae'n berffaith glir mai dyna mae ei eisiau—os cawn y cytundeb hwnnw, bydd yn rhaid i'n GIG fod yn agored i'r mathau o arferion a geir yn yr Unol Daleithiau, oherwydd os ydynt—[Torri ar draws.] Os hoffai Janet Finch-Saunders ymyrryd, buaswn yn falch iawn o glywed ganddi, fel bob amser. Fel arall, efallai y gallai ganiatáu i mi barhau.