Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Rhaid imi ddweud, mae'n hynod naïf fod y Blaid Geidwadol yn meddwl y gall y DU, rywsut, ddisgwyl dod i gytundeb â'r Unol Daleithiau sy'n rhoi'n union beth y mae arni ei eisiau i'r DU heb roi rhywfaint o'r hyn y mae ar yr UDA ei eisiau. Rwy'n credu ei bod hyd yn oed yn fwy naïf i feddwl y gall y DU fynnu rywsut fod yr Unol Daleithiau'n cefnu ar elfennau allweddol o'i safbwyntiau negodi sylfaenol. Mae popeth ar y bwrdd; dyna'n hollol amlwg y mae Donald Trump yn ei ddisgwyl. A phan fydd Llywodraeth y DU yn dechrau mynnu'r hyn sydd, a'r hyn nad yw ar y bwrdd, rwy'n eithaf siŵr y bydd yr Unol Daleithiau'n dweud wrth y DU i fynd i chwilio am fwrdd arall i eistedd wrtho.
Pan fyddwn yn sôn am fasnach, cytundebau masnach a chwilio am gytundebau masnach, mae'n ymwneud â mwy na dim ond yr hyn sy'n cael ei brynu a'i werthu, pa nwyddau y gellir eu prynu a'u gwerthu yn ôl ac ymlaen, mae'n ymwneud hefyd â sut y cânt eu gwerthu, pa reolau sy'n berthnasol i'r gwerthiannau hynny, pa fframweithiau rheoleiddio neu gysoniadau rheoleiddio sydd eu hangen er mwyn caniatáu'r fasnach honno, ac efallai pa dariffau sydd ar rai nwyddau, fel quid pro quo am rai eraill. Mae angen ystyried llu o elfennau, ac nid â nwyddau'n unig y mae'n ymwneud chwaith wrth gwrs, mae'n ymwneud hefyd â gwasanaethau. Ac o ran nwyddau a gwasanaethau, mae'n gwbl amlwg fod bygythiad enbyd i'r GIG o gael cytundeb masnach rhwng y DU a'r UDA, ac ofnaf y byddai'r DU mewn sefyllfa wan iawn yn mynd i mewn i'r negodiadau hynny.
Nawr, gallwn siarad am wasanaethau. Bydd y Ceidwadwyr yn dweud wrthych nad oes ganddynt unrhyw argymhellion i werthu'r GIG. Wrth gwrs, yr hyn na fyddant yn ei atal yw'r farwolaeth drwy fil o doriadau, cyflwyno mwy a mwy o elfennau preifat, cwmnïau preifat yn gweithio o fewn y GIG, yn elwa o'r GIG. Yn anffodus, gwelwn hynny gan y Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru hefyd. A bydd darparwyr gwasanaethau iechyd yn yr Unol Daleithiau yn fwlturaidd, yn cylchu'r GIG yn y DU, gan edrych am ffyrdd i mewn drwy gytundeb masnach rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU.
Ond rwy'n mynd i ganolbwyntio ar gyffuriau. Cofnodwyd Trump yn dweud ei fod yn credu bod prisiau cyffuriau yn Ewrop yn rhy isel. Mae diwydiant fferyllol yr Unol Daleithiau wedi cyflwyno dadleuon i negodwyr masnach yr UDA yn cwyno am rwystrau mynediad hirsefydlog y DU i'r farchnad. Mae'n bosibl y bydd cytundebau masnach, er enghraifft, yn ei gwneud yn ofynnol i NICE newid y ffordd y mae'n arfarnu costeffeithiolrwydd cyffuriau. Gallai hynny fod yn un o elfennau'r print mân mewn cytundeb masnach o'r fath. A gallai olygu newidiadau i drefniadau prynu cyfunol, oherwydd caiff trefniadau o'r fath eu gweld gan rai yn niwydiant fferyllol yr Unol Daleithiau a'r Llywodraeth, mae'n ymddangos, fel rhai gwrth-gystadleuol.
Nawr, dylem i gyd ddeall y bydd cynyddu amddiffyniadau patent yn golygu mwy o gostau i'r GIG—cyfeiriwyd at hynny eisoes. Rydych yn cadw'r amddiffyniadau patent sy'n cadw rhai cyffuriau'n ddrud iawn ac yn amlwg, gallai hynny effeithio arnom ni, pe bai'n rhaid i'r GIG dalu'r prisiau hynny.