Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ddadl hon. Mae’n amserol oherwydd mae’n rhoi goblygiadau ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd o dan y chwyddwydr, felly hefyd ganlyniadau posibl ymddiried mewn Llywodraeth Dorïaidd dan arweiniad Boris Johnson i ymgymryd â’r broses honno.
Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynnig gwreiddiol i raddau helaeth. Adlewyrcha safbwynt y mwyafrif o Aelodau’r Senedd y dylai’r Deyrnas Unedig barhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ac na ddylai’r egwyddor y cafodd y gwasanaeth iechyd gwladol ei sefydlu yn unol â hi, sef bod gwasanaethau yn rhad ac am ddim adeg eu darparu, gael eu rhoi yn y fantol.
Rydym ni hefyd yn cytuno bod y setliad cyfansoddiadol presennol yn gwbl annigonol i ymdopi â heriau dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Mynegon ni ein barn ar hyn yn gwbl glir yn ein dogfennau polisi, 'Brexit a Datganoli' a 'Diwygio ein Hundeb'. Os na fyddwn ni’n parhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, yna mae perygl y bydd y llinell rhwng negodiadau rhyngwladol a meysydd lle mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli yn cael ei chroesi.
Rydym ni wedi cynnal sawl dadl ar Brexit yn y Siambr hon, ond, er gwaethaf hynny, rydym ni'n dal i glywed gan y rheini sydd am 'get Brexit done' neu 'clean-break Brexit', galwadau sydd yn gwbl niweidiol i fuddiannau Cymru. Amlygwyd unwaith eto y niwed a fyddai'n cael ei achosi pe byddai'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn y tymor byr a'r tymor hir gan y National Institute of Economic and Social Research yn yr wythnos diwethaf. Fe ddaethon nhw i'r casgliad, yn union fel y mae economegwyr Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, mai bach iawn yw'r manteision o negodi cytundebau masnach rydd gyda gwledydd nad ydyn nhw'n perthyn i'r Undeb Ewropeaidd. Ar y llaw arall, byddai'r niwed yn sgil ymadael â marchnad sengl ac undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd yn sylweddol ac yn parhau am flynyddoedd maith i ddod.