Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Mae cael Brexit wedi'i wneud yn golygu difrodi'r economi, peryglu bywoliaeth ein dinasyddion ac amddifadu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol o'r buddsoddiad sydd ei angen. Eto i gyd, mae'r Ceidwadwyr yn ystod ymgyrch yr etholiad unwaith eto wedi bod yn gwneud addewidion nad oes unrhyw fodd o'u cyflawni, er enghraifft, y gallwn droi ein cefn ar ddull yr UE o weithredu cymorth gwladwriaethol a chystadleuaeth a dal i gael cytundeb masnach well na'r un gyda'r Undeb Ewropeaidd. Os byddant yn dychwelyd i rym, duw a'n helpo, byddant yn sylweddoli'n fuan fod hyn yn rysáit ar gyfer methiant y negodiadau.
Felly, gan droi at y gwelliannau gan y Ceidwadwyr Cymreig, er ein bod wrth gwrs yn cefnogi rhinweddau masnach rydd, mae perygl mawr i fuddiannau Prydain pe bai Llywodraeth Doraidd yn rhuthro i gofleidio gweinyddiaeth America yn gyntaf Trump, gweinyddiaeth sydd wedi dangos ei bod lawn mor ddidostur a di-hid yn gweld masnach fel gêm 'swm sero', lle na all America ennill heblaw ei bod yn dinistrio buddiannau ei phartner negodi. Ni allwn gredu'r sicrwydd a roddwyd gan Boris Johnson na fydd y GIG byth yn cael ei aberthu mewn negodiadau gyda'r UE fwy nag y gallem gredu y byddai'n cyflawni Brexit erbyn 31 Hydref doed a ddelo.
Gadewch imi fod yn gwbl glir: mae'r GIG yng Nghymru yn cael ei weithredu yng Nghymru ar gyfer Cymru, ac o dan y Llywodraeth hon, bydd yn parhau yn nwylo'r cyhoedd. Nid yw ein GIG ar werth. Ac mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gwneud yr un camgymeriadau yn ei pharatoadau ar gyfer negodiadau masnach â'r Unol Daleithiau ag a wnaeth wrth ddechrau negodi'r cytundeb ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—cyfuniad angheuol o ddifaterwch, anwybodaeth a gorbwysleisio cryfder ein llaw negodi yn druenus. Mae wedi methu—nid yw hyd yn oed wedi ymdrechu, mewn gwirionedd—mynegi gweledigaeth ar gyfer masnach yn y dyfodol a rennir gan holl Lywodraethau'r Deyrnas Unedig, a cheir diffyg tryloywder llwyr hefyd. Nid yw'r DU wedi cyhoeddi mandad negodi drafft hyd yn oed ar gyfer negodiadau â'r Unol Daleithiau. Ond gwyddom erbyn hyn, wrth gwrs, fel y nodwyd yn y ddadl eisoes, fod misoedd o drafodaethau cudd eisoes wedi digwydd, wedi'u crynhoi mewn mwy na 400 o dudalennau o nodiadau a chofnodion. Mae hyn yn tanio drwgdybiaeth ac yn tanseilio ymddiriedaeth, yn enwedig pan allai'r effaith ar bobl, ar fusnesau, ar gymunedau ar draws y DU gyfan fod mor ddifrifol.
Mewn cyferbyniad, rydym wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y DU fod angen i ni ymwneud yn ffurfiol ac yn strwythuredig â phob agwedd ar negodiadau masnach, sy'n dod â mi at ran olaf y cynnig gan Blaid Cymru. Mae'r cynnig yn nodi'r heriau cywir, ond nid yr atebion cywir, mae arnaf ofn. Fel Llywodraeth, rydym o blaid ailwampio'r cyfansoddiad fel ei fod yn llwyr gydnabod ac yn parchu awdurdod cyfartal y pedair Llywodraeth a Senedd i ymdrin â materion sydd o fewn eu cymhwysedd.
Ond nid yw hyd yn oed cyfansoddiadau cwbl ffederal fel Canada, fel yr Almaen, Awstralia neu UDA yn rhoi feto i lywodraethau unigol is-na-lefel-llywodraeth-ffederal ar gytundebau masnach. A buaswn yn pwysleisio bod hyn yn wir yng Nghanada hefyd, lle mae ymwneud eu taleithiau ym mhroses gynhwysfawr y cytundeb economaidd a masnach yn aml yn cael ei gynnig fel enghraifft. Byddai gwneud hynny, wrth gwrs, yn gwneud rôl y Llywodraeth ffederal yn cynnal negodiadau rhyngwladol yn amhosibl yn ymarferol. Yn hytrach, maent yn sefydlu hawliau llywodraethau gwladwriaethol, llywodraethau talaith, neu lywodraethau Länder i helpu i ffurfio negodiadau, ac yn cynnwys y posibilrwydd mewn rhai achosion, fel y crybwyllodd David Rees yn ei gyfraniad, fod y Länder yn gweithredu ar y cyd i rwystro cytuniadau, boed hynny drwy eu cynrychiolaeth, fel y dywedodd David, yn y seneddau ffederal.
Yng Ngwlad Belg yn unig y mae gan lywodraethau unigol ar lefel wladwriaethol rôl ffurfiol yn cadarnhau ac o bosibl, yn nacáu cytundebau rhyngwladol. Ond mae'r setliad datganoli yng Ngwlad Belg yn datganoli masnach, ond nid yw'n datganoli iechyd. Felly, dyna arwydd inni o'r gofal sy'n rhaid inni ei gymryd wrth edrych ar gynsail mewn mannau eraill. Ac mae'r rheini sy'n dadlau dros feto ar gytundebau rhyngwladol gan y Senedd, neu gan Senedd yr Alban, i bob pwrpas yn argymell peidio â diwygio, a diddymu'r undeb yn ymarferol. Ac er nad wyf yn cefnogi'r amcan hwnnw o gwbl, rwy'n credu y byddai o leiaf wedi bod yn fwy tryloyw i adlewyrchu hynny yn y cynnig.