Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Wel, trafodaethau anffurfiol gyda grwpiau perthnasol ydynt yn hytrach na negodiadau, oherwydd ein dehongliad neilltuol o gyfraith yr UE. O ran y darnau y mae Llafur wedi tynnu sylw atynt ac yn ceisio gwneud rhywbeth mawr ohonynt, nid oes yr un ohonynt i'w weld i mi yn brawf digamsyniol o unrhyw beth. Rwy'n credu mai mater patentau yw'r un y maent wedi'i ystumio fwyaf yn ôl pob tebyg. Ond yn fras, mae system batent y DU a'r Unol Daleithiau yn gymharol debyg o ran lefel a hyd yr amddiffyniad a roddir. Mae'r hyn sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau i raddau helaeth yn adlewyrchu strwythur eu marchnad a'r ffordd y mae'r cwmnïau yswiriant yn gweithio. Oherwydd mai'r GIG yw'r prynwr cyffuriau monopsoni, ac oherwydd bod gennym y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i ystyried a yw'n mynd i fod yn gosteffeithiol, dyna'r ddau beth sy'n cadw costau'n isel ym marchnad y DU.
Yr hyn sy'n gwneud prisiau cyffuriau'n drybeilig o uchel mewn rhannau o'r GIG—ac mae'n wir fod GlaxoSmithKilne ac AstraZeneca yn elwa hefyd o hynny pan fyddant yn gwerthu i'r UDA—yw strwythur lle mae'r cwmnïau yswiriant yn prynu'r cyffuriau hyn heb reolaeth effeithiol ar gostau. Ac mae hynny'n rhannol oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dal i gynnig cynlluniau i weithwyr lle gallant fynd at unrhyw feddyg y dymunant, ac os yw'r meddyg hwnnw'n presgripsiynu, bydd y cwmni yswiriant yn talu'r cwmni cyffuriau. Felly, nid oes cystadleuaeth effeithiol o ran y farchnad na rheoleiddio cyffredinol neu ddarparwr monopsoni, fel sydd gennym ni.
Nid yw trafodaethau masnach yn mynd i ddylanwadu ar ddim o'r pethau hynny. Am y rheswm hwnnw, rwy'n ystyried mai codi bwganod yw hyn. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd am yr opioidau, a chredaf fod hynny'n adlewyrchu ymddygiad presgripsiynu yn y farchnad a natur y berthynas rhwng y claf a'r meddyg, sy'n annhebyg i'r hyn sydd gennym yn y wlad hon, ac na fyddai gennym ni waeth pa gytundeb masnach a fyddai gennym â'r Unol Daleithiau.
I ymdrin yn gyflym â phwynt 3, nid ydym yn cytuno â feto ar bolisi masnach am ei fod yn fater a gadwyd yn ôl ac nid ydym yn cefnogi Cymru sofran annibynnol yn y ffordd y mae Plaid Cymru yn ei wneud. Byddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, y credwn ei fod yn eithaf gonest o gofio ei bod yn gyfnod cyn etholiad, a byddwn yn ymatal ar gynnig y Llywodraeth, gan fod gennym rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio'i wneud ac rydym yn credu y dylai Cymru gael rôl ymgynghorol briodol mewn negodiadau masnach. Ond nid ydym yn credu mewn cael feto na chyfansoddiad ffederal gyda'r Goruchaf Lys yn ei oruchwylio yn y ffordd y credaf eu bod yn awgrymu.